Cynlluniwch ymlaen llaw: Cau ffyrdd ar gyfer Ras 10K Caerdydd

Dydd Llun, 24 Awst 2026


 

Gyda disgwyl i filoedd o redwyr gymryd rhan yn Ras 10K Caerdydd Sefydliad Aren Cymru ar 6 Medi, bydd ffyrdd ar gau i hwyluso’r digwyddiad.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10am, a bydd ffyrdd ar hyd y llwybr yn cau fesul cam rhwng 9am ac 1pm er mwyn hwyluso’r ras.

Er mwyn sefydlu pentref y ras, rhwng 5am ddydd Sadwrn 5 Medi a 6pm ddydd Sul 6 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn y Ganolfan Ddinesig:

Rhodfa’r Brenin Edward VII, Heol Corbett, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Ar 6 Medi, rhwng 9am ac 1pm, bydd ffyrdd yn cau fesul cam ar y ffyrdd canlynol:

  • Heol y Gogledd, o’r gyffordd â Heol Colum hyd at y gyffordd â Boulevard de Nantes – Mynediad i’r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett a bydd mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett, gyda ffordd allan drwy Heol Corbett a thrwy Heol Colum
  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Boulevard de Nantes o’r gyffordd â Phlas y Parc/Stuttgarter Strasse i’r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Y Brodordy a Gerddi’r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, a Heol y Parc
  • Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
  • Y Stryd Fawr o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare
  • Arglawdd Fitzhamon, Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street a Theras Coldsteam
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
  • Stryd Neville o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
  • Stryd Wellington o’r gyffordd â Heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Brenin
  • Heol y Gadeirlan o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Penhill
  • Pob ffordd ochr sy’n dod allan ar Heol y Gadeirlan
  • Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, y ffordd gysylltu yng Ngerddi Sophia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler
  • Heol Penhill o’r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
  • Bydd Rhodfa’r Gorllewin ar gau o’r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.

Rhwng 9am a 6pm, bydd mynediad i Heol y Brodyr Llwydion yn cael ei reoli wrth gyffordd Boulevard de Nantes / Plas y Parc i hwyluso symudiadau bysus a thrigolion / busnesau yn yr ardal yn unig.

SYLWER: Bydd y gwaharddiad ar droi i’r dde o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.

I gael rhagor o wybodaeth am Ras 10K Caerdydd Sefydliad Aren Cymru, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad – https://www.cardiff10k.cymru/