Stadiwm Principality Caerdydd i gynnal brwydr y degawd rhwng Fury a Joshua

Dydd Iau, 24 Medi 2026


 

Ar ôl wythnosau o drafodaethau gofalus, mae’n bleser gan Undeb Rygbi Cymru gadarnhau y bydd Stadiwm Principality Caerdydd yn cynnal digwyddiad bocsio mwyaf y flwyddyn wrth i Anthony Joshua herio Tyson Fury ar noson 11 Rhagfyr.

Bydd yr ornest yn cau pen y mwdl ar un o’r cystadlaethau mwyaf heb ei datrys yn yr oes fodern. Am fwy na degawd, mae Fury a Joshua wedi bod yn amlwg iawn ym myd bocsio pwysau trwm Prydain, wedi meddu ar deitlau byd ac wedi bod yn uchafbwynt digwyddiadau mawr, ond dydyn nhw erioed wedi wynebu ei gilydd yn broffesiynol, hyd yn hyn.

Cymaint yw lefel y diddordeb byd-eang yn yr ornest fel y bydd y frwydr rhwng Joshua a Fury yn cael ei chynnal yn oriau mân y bore, yn dilyn noson lawn o focsio o’r radd flaenaf ym mhrifddinas Cymru. Bydd y cawr ffrydio byd-eang Netflix yn cynnal y digwyddiad yn fyw, ac amcangyfrifir y bydd yn arddangos Cymru a Stadiwm Principality i 325 miliwn o danysgrifwyr sy’n talu ar draws y byd.

Mae Stadiwm eiconig Principality yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau bocsio mawr gyda chapasiti o 80,000, to y gellir ei gau, llinellau golwg heb eu hail a’i leoliad unigryw yng nghanol y ddinas.

Gan groesawu’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Chris Weaver: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn fwy o newyddion cyffrous i Gaerdydd ac yn adlewyrchu enw da parhaus y ddinas fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau chwaraeon ac adloniant mawr. Mae gan yr ornest arfaethedig rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua yn Stadiwm Principality ar 11 Rhagfyr 2026 y potensial i ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ddinas a denu ymwelwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt.

Mae gan Gaerdydd dreftadaeth focsio falch a hanes cryf o gynnal digwyddiadau mawr. Yn flaenorol, fe wnaeth Stadiwm Principality lwyfannu buddugoliaeth hanesyddol Joe Calzaghe dros Mikkel Kessler yn 2007 a’r ornest unedig am deitl pwysau trwm y byd Anthony Joshua yn erbyn Joseph Parker yn 2018. Mae’r frwydr rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua yn un o’r gornestau mwyaf disgwyliedig yn hanes bocsio Prydain, ac rydym wrth ein bodd bod Caerdydd wedi cael ei dewis i’w chynnal.

Bydd y gystadleuaeth rhwng Fury a Joshua yn achlysur arwyddocaol arall i’r gamp yng Nghaerdydd ac yn un o’r digwyddiadau bocsio mwyaf proffil uchel a gynigiwyd erioed ar gyfer y DU.

Mae digwyddiadau mawr yn rhoi hwb i fusnesau lleol, yn cefnogi swyddi, ac yn arddangos Caerdydd i gynulleidfa fyd-eang. Er bod y digwyddiad yn parhau i fod yn amodol ar y trefniadau angenrheidiol sy’n cael eu cwblhau gan y trefnwyr, gan gynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol i Drwydded Adeilad Stadiwm Principality, rydym yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr i’r ddinas ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn noson fythgofiadwy o focsio.”

Dywedodd Gavin Marshall, Prif Swyddog Gweithredu Undeb Rygbi Cymru a Stadiwm Principality: “Mae gennym hanes cyfoethog o focsio yng Nghaerdydd, nid yn unig yn Stadiwm Principality ond ledled y ddinas, sy’n dyddio’n ôl dros ganrif.

“Ein huchelgais yw dod â’r digwyddiadau chwaraeon ac adloniant rhyngwladol gorau i Gaerdydd ac i Gymru.  Mae’r ornest rhwng Joshua a Fury yn argoeli i fod yn noson enfawr arall ac rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad byd-eang mawr hwn i’r byd yn Stadiwm Principality.

“Mae llawer iawn o waith yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni i ddod â digwyddiad fel hwn i Gymru, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a’n partneriaid trafnidiaeth i ddod â’r digwyddiad hwn yn fyw. Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn!”

Mae’r digwyddiad yn parhau i fod yn amodol ar drwydded.