Beth wyt ti'n edrych am?
Marchnad Caerdydd i ddod yn ganolfan gerddoriaeth gyda’r nos ar gyfer Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Dydd Iau, 1 Hydref 2026
Bydd Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd yn agor gyda’r nos fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, gan ddod â selogion cerddoriaeth, teuluoedd, ymwelwyr a mynychwyr yr ŵyl ynghyd am dair noson am ddim o ddarllediadau byw a pherfformiadau, setiau DJ, bwyd a diwylliant yng nghanol y ddinas.
Rhwng 5pm a 10pm, o ddydd Iau 15 tan ddydd Sadwrn 17 Hydref, bydd Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd yn croesawu gorsaf radio amgen Gymreig Radio Sudd yn y farchnad Fictoraidd eiconig, gan drawsnewid y lleoliad nodedig yn fan ymgynnull bywiog yn ystod penwythnos Gŵyl Sŵn.
Drwy gydol y dydd, bydd Radio Sudd yn darlledu’n fyw o Farchnad Caerdydd, gyda chyfweliadau ag artistiaid, darllediadau gwyliau a rhaglenni gwadd arbennig gan gynnwys rhifyn arbennig o On the Record gyda SHLUG, ynghyd â slotiau gwesteion yn cynnwys Dewin, The Dogs, Wrkhouse a mwy.
Wrth iddi nosi, bydd DJs gan gynnwys Sarah Sweeney, John Rea, Deckshark, Ceyda, a Willow yn codi’r sain a bydd perfformwyr byw gan gynnwys Ifan, Pypi Slysh a’r John Mouse Multiverse yn camu i lwyfan balconi sy’n edrych dros lawr y farchnad, gan greu trac sain unigryw i noson yn un o adeiladau treftadaeth mwyaf atmosfferig y ddinas.
Yn y cyfamser, bydd ystod eclectig y farchnad o fasnachwyr annibynnol yn cadw’r egni’n uchel, gyda bwyd a diod ar gael gan Dirty Gnocchi, Bao Selecta, Patagonia, Thai Asian Delish, Pierogi, The Bearded Taco, Ffwrnes a mwy.
Dywedodd Curadur Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, Ruth Cayford: “Mae’n rhaid i Farchnad Caerdydd fod yn un o fannau cyhoeddus mwyaf poblogaidd y ddinas. Mae ganddi ei hawyrgylch unigryw ei hun ac, fel sîn gerddoriaeth Caerdydd, mae wedi’i datblygu ar gymuned. Am dair noson mae Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd yn dod â’r ddwy at ei gilydd fel y gall cynifer o bobl â phosib fwynhau’r egni, y creadigrwydd a’r ysbryd sy’n gwneud Caerdydd yn ddinas gerdd mor fywiog.”
“Roedd y farchnad yn brofiad rhagorol i lawer o bobl y llynedd – does dim byd tebyg iddo yn fy marn i – cerddoriaeth wych, goleuadau gwych, bwyd gwych. Mae’n mynd i fod yn anhygoel, ac mae yna lwyth o westeion arbennig i’w cyhoeddi o hyd felly tiwniwch i mewn i Brecwast ar Radio Sudd ar 6 Hydref ar gyfer y rhestr lawn o berfformiadau.”
Mae Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, dathliad dinas gyfan o bŵer cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, mae’r ŵyl yn rhedeg rhwng 2 Hydref a 17 Hydref ac mae’n cynnwys Sŵn, Llais a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ochr yn ochr â rhaglen amrywiol o gigs untro, sgyrsiau, digwyddiadau a gosodiadau mewn lleoliadau ledled y ddinas.
Dilynwch @dinasgerddcaerdydd ar Instagram a Facebook i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth am yr ŵyl, neu ewch i https://dinasgerddcaerdydd.cymru/
Llun gan: Coal Poet Media