Beth wyt ti'n edrych am?
Nifer record o wneuthurwyr ffilm yn mynychu 20fed rhifyn Gwobr Iris
Dydd Llun, 12 Hydref 2026
- Mae’r holl ffilmiau Gorau Ym Mhrydain sydd ar y rhestr fer yn cael eu cynrychioli yn yr ŵyl
- Mae’r holl ffilmiau byrion gan fyfyrwyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu cynrychioli yn yr ŵyl
- Mae dros hanner y ffilmiau sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Iris yn cael eu cynrychioli yn yr ŵyl
- Mae dros hanner y ffilmiau nodwedd yn cael eu cynrychioli yn yr ŵyl
- Mae dros 80% o’r ffilmiau cymunedol, addysgol a micro-fer yn cael eu cynrychioli yn yr ŵyl
Ddydd Llun 12 Hydref, mae Gŵyl Ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris – dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd yn dychwelyd i Cineworld Caerdydd ac ynghyd ag Iris ei hun, daw llu o sêr a dylanwadwyr o bob cwr o’r byd.
Ar y noson agoriadol (dydd Llun 12 Hydref), bydd talent o Gymru yn disgleirio wrth i bum ffilm newydd gael eu dangos; mae pedair ohonynt yn dod o Gymru ac yn cynnwys talent Gymreig. Bydd y cyfryngau yn ymgynnull ac yn cael cyfle i siarad â llawer o’r gwneuthurwyr ffilm a’r dalent sy’n gysylltiedig â’r ffilmiau ar y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth, yn ogystal ag eraill sy’n rhan o’r ffilmiau sy’n cael eu harddangos ar y noson agoriadol.
Mae rhaglen Noson Agoriadol eleni yn cynnwys y ffilmiau canlynol, a bydd yr holl wneuthurwyr ffilm yn bresennol:
- Love Is Not An Emotion – cyf. Will Collins
- Cranogwen a Fi – cyf. Mari Izzard
- Wear I Am – cyf. Vicky Morton
- Try – dir. Lewis Bayley
- Behind The Scenes of the Pink Portraits 2026 – cyf. Kole Parrott
Mae’r talent ychwanegol fydd yn bresennol yn y Noson Agoriadol yn cynnwys:
Victoria Broom (Actor)
Suzanne Packer (Actor)
Marmalade (Drag Queen, Ru Paul’s Drag Race)
David Grundy (BBC Cymru Wales)
Felicity Evans (BBC Cymru Wales
Ali Afzal (Actor)
Bolly Illusion (Drag Queen)
Marc Antolin (Actor)
Rajdeep Choudhury (Alumnus Iris – hedfan i mewn o India)
Leo Drayton (Actor ac Awdur)
Drwy gydol yr wythnos, bydd cyfle i gwrdd â gwneuthurwyr ffilm, talent ac alumni Iris o bob cwr o’r byd, gan gynnwys y canlynol:
Andrew Haigh (Cyfarwyddwr, Weekend)
Tom Cullen (Actor, Weekend a Black Church Bay)
Joe Locke (Actor, Black Church Bay)
Donna Deitch (Cyfarwyddwr, Desert Hearts)
Daniel Ribeiro (Cyfarwyddwr, I Am Going to Miss You; alumnus Iris ac enillydd Gwobr Iris 2011 am I Don’t Want to Go Back Alone)
Chris Urch (Cyfarwyddwr, aelod o’r panel beirniaid ar gyfer y ffilm Orau Ym Mhrydain, alumnus Iris ac enillydd gwobr y Ffilm Fer Orau Ym Mhrydain yn 2025 am Blackout)
Paul ‘Stumpy’ Davies (S4C)
Lisa Baker (Awdur, Madfabulous)
Norena Shopland (Awdur a hanesydd)
Mickey Down a Konrad Kay (Crewyr, Industry)
Adam Knopf (Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd)
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Mae rhannu straeon sy’n cael eu hanwybyddu gan y prif ffrwd yn un o’n prif nodweddion unigryw. Yn dilyn hynny, rydym yn cynnig cyfle i’n cynulleidfa gwrdd â’r bobl dalentog sydd wedi creu’r ffilmiau. Mae hyn yn rhywbeth na all darlledwyr na llwyfannau ffrydio ei wneud. Ond mewn gŵyl gyfeillgar fel Iris, rydym yn annog pawb i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael cyswllt uniongyrchol â chyfarwyddwyr, awduron, cynhyrchwyr ac actorion.”
Mae Gwobr Iris yn dychwelyd ar gyfer ei 20fed rhifyn o ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref, gyda chefnogaeth Cronfa Prosiectau Cynulleidfa’r BFI a’r Loteri Genedlaethol, sy’n dyfarnu cyllid Achosion Da y Loteri Genedlaethol.
Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy’n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4; Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried – Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; a Chyngor Prydeinig Cymru. Mae’r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Croeso Caerdydd.