Manic Street Preachers Generation Terrorists yn cael ei berfformio’n fyw yn llawn yn y Gored Ddu, Caerdydd Gyda chefnogaeth The Libertines, The Cardigans a The Tubs

Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026


 

Y Manic Street Preachers fydd prif berfformwyr sioe enfawr yng Nghaerdydd yr haf nesaf, yn dathlu 35 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf arloesol, Generation Terrorists.

Ar ddydd Sadwrn 19 Mehefin, bydd y band yn perfformio’r albwm yn llawn am y tro cyntaf erioed am UN NOSON YN UNIG YN Y DU ar Gaeau’r Gored Ddu, Caerdydd. Bydd y sioe yn dathlu’r casgliad o ganeuon wnaeth roi’r band ar gloriau cylchgronau, rhestrau chwarae ar y radio a sgriniau teledu am y tro cyntaf – Motorcycle Emptiness, You Love Us, Repeat, Love’s Sweet Exile, Slash’n’Burn, Little Baby Nothing.

Cyn perfformiad y Manic Street Preachers, mae’r band wedi dewis rhestr anhygoel o fandiau, sy’n cynnwys rhai o’u hoff artistiaid: The Libertines, The Cardigans a The Tubs. Elis James fydd DJ y digwyddiad.

Gall cefnogwyr gofrestru i brynu tocynnau ymlaen llaw am 10am ddydd Iau trwy blackweirlive/manics gyda thocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd am 10am ddydd Gwener 27 Tachwedd trwy www.blackweirlive.com a www.ticketmaster.co.uk

Cafodd Generation Terrorists, maniffesto rhyfeddol o 18 o draciau, yn llawn senglau wnaeth daranu drwy ein systemau sain, ei ryddhau ym mis Chwefror 1992 gan hyrddio’r band i mewn i gerddoriaeth prif ffrwd yn ddigyfaddawd.

Y Manic Street Preachers ar Generation Terrorists: “Pan sylweddolon ni ei bod hi’n 35 mlynedd ers rhyddhau ein halbwm cyntaf; cawsom ein synnu. Roedd yn anhygoel ac yn arwyddocaol ar yr un pryd. Wrth feddwl am y record, sylweddolon ni nad oedd rhai o’r caneuon arni erioed wedi cael eu chwarae’n fyw (So Dead, Another Invented Disease), a’n bod heb gyffwrdd â rhai eraill ers degawdau (Methadone Pretty, Repeat, Damn Dog ac ati).

“Yn brysur yn cyfansoddi caneuon ar gyfer ein 16eg albwm (fydd allan ddiwedd ’27 neu ddechrau ’28 gobeithio), cawsom gynnig i chwarae Generation Terrorists yn ei gyfanrwydd. Roedd y syniad yn teimlo fel saib o recordio, fyddai’n hwyl. Efallai bod y caneuon yn ymddangos yn hen, ond maen nhw i gyd mor ifanc ac egnïol, yn angerddol, a naïf hyd yn oed.

“Bydd ei chwarae yng Nghaerdydd – dinas lle rydyn ni wedi chwarae mewn cymaint o leoliadau, o Ganolfan Gelfyddydau Chapter i Stadiwm y Mileniwm – a phrofi’r teimladau hynny unwaith eto, yn anhygoel. Mae’n mynd i fod yn wych. Welwn ni chi yno.”

Mae hwn yn docyn hanfodol i gefnogwyr y Manic Street Preachers. Gallwch ddisgwyl print llewpard, colur llygaid trwm, unawdau gitâr nodedig, crysau wedi’u chwistrellu â phaent a’r posibilrwydd parhaus o drychineb fendigedig.

Mae dyddiad y Manic Street Preachers yng Nghaerdydd yn barhad i restr gadarn o sioeau awyr agored mawr yn y Gored Ddu sydd wedi gweld perfformiadau gan The Cure, Lewis Capaldi, Pitbull, Teddy Swims, Stevie Wonder, Alanis Morissette, Noah Kahan a Slayer ers ei sefydlu yn 2025.

Datgelwyd yn barod y bydd MUSE, sydd wedi ennill dwy wobr GRAMMY, yr eicon byd-eang Shania Twain, yr artist aml-blatinwm o’r UD Alex Warren a’r rocwyr Gwyddelig Fontaines DC hefyd yn perfformio yn y Gored Ddu yr haf nesaf.

Mae’r digwyddiadau enfawr yng nghanol prifddinas Cymru yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth rhwng DEPOT Live (cangen digwyddiadau byw lleoliad cerddoriaeth  DEPOT yng Nghaerdydd) a’r hyrwyddwyr o’r DU, Cuffe and Taylor.

Dywedodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT Live: “Mae hon yn sioe enfawr, nid yn unig i Gaerdydd a hyd yn oed Cymru, ond i bob person sydd erioed wedi gwrando ar gerddoriaeth y Manic Street Preachers.

 “Diffiniodd Generation Terrorists gyfnod wnaeth hyrddio’r Manic Street Preachers i mewn i gerddoriaeth prif ffrwd, ac mae cael y band yn perfformio’r albwm yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf erioed, ac am un noson yn unig ym mhrifddinas Cymru, yn rhywbeth arbennig iawn.

 “Yn ogystal â hynny, bydd y band yn perfformio caneuon ar draws eu catalog, ac mae gennym westeion arbennig gwych gyda The Libertines, The Cardigans a The Tubs, ynghyd ag Elis James. Bydd hon yn noson anhygoel a chydag un cyfle yn unig i weld y sioe, rydym yn disgwyl mai dyma fydd y tocyn mwyaf poblogaidd i’w gael.”

 DILYNWCH Y MANIC STREET PREACHERS
GWEFAN | FACEBOOK | INSTAGRAM | X