Parcio a Theithio am ddim dros y Nadolig o Stadiwm Dinas Caerdydd i Ganol y Ddinas

Dydd Llun, 16 Tachwedd 2026


 

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu Gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim dros y Nadolig o Stadiwm Dinas Caerdydd i Stryd Wood o 25 Tachwedd tan 3 Ionawr.
Bydd y gwasanaeth am ddim yn rhedeg rhwng 7am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac o 9am tan 6pm ar ddydd Sul, gan godi teithwyr o’r safle bws ar Ffordd Fred Keenor, ym maes parcio Stadiwm Dinas Caerdydd a’u gollwng gyferbyn â stiwdio’r BBC ar Stryd Wood, yng nghanol y ddinas.

Mae croeso i’r rhai sy’n gweithio neu’n siopa yng nghanol y ddinas ddefnyddio’r gwasanaeth bws am ddim a bydd y gwasanaethau yn rhedeg bob 20 munud.

Dywedodd y Cyng Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth: “Rydyn ni eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl fynd i mewn i ganol y ddinas dros gyfnod y Nadolig. Yn syml, parciwch eich cerbyd ym maes parcio Stadiwm Dinas Caerdydd, gwnewch eich ffordd i’r safle bws, ewch ar y bws, a byddwch yn cael tocyn dwyffordd am ddim i fynd i mewn ac yn ôl o ganol y ddinas.

“Os yw’r bysus parcio a theithio yn llawn ar y ffordd gartref, gallwch ddefnyddio’r un tocyn ar Wasanaeth 95 Bws Caerdydd i’r Barri, sydd hefyd yn gollwng teithwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.”

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Chris Weaver: “Mae Caerdydd yn lle gwych i fod yma adeg y Nadolig, p’un a ydych chi’n siopa, yn gweithio, yn cwrdd â ffrindiau a theulu neu’n mwynhau popeth sydd gan ganol y ddinas i’w gynnig.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd y gwasanaeth Parcio a Theithio rhad ac am ddim hwn yn gwneud teithiau i ganol y ddinas yn haws ac yn annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau Caerdydd dros gyfnod yr ŵyl.”

 

Gallwch gyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd o gyffordd 33 yr M4, ar hyd yr A4232 a dilyn yr arwyddion i’r safle. Ni fydd y gwasanaeth am ddim ar gael ar ddiwrnodau gêm ar 5, 11 na 12 Rhagfyr, nac ar 25 Rhagfyr, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr.