Matilda The Musical

Dyddiad(au)

09 Rhag 2026 - 17 Ion 2027

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dilyn llwyddiant y daith gyntaf a werthwyd allan yn 2018/19, mae Matilda The Musical, y sioe gerdd arobryn gan y Royal Shakespeare Company, wedi’i hysbrydoli gan y llyfr poblogaidd gan Roald Dahl, yn mynd allan ar daith eto ledled y DU ac Iwerddon.

I ddathlu 15 mlynedd ar y llwyfan ers agor yn y Courtyard Theatre yn Stratford-upon-Avon, ac yn dilyn perfformiadau mewn 100 o ddinasoedd mewn 17 o wledydd ledled y byd, mae Matilda bellach yn dychwelyd i Gaerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Gyda llyfr gan Dennis Kelly, cerddoriaeth a geiriau gan Tim Minchin ac wedi’i chyfarwyddo gan Matthew Warchus, Matilda yw stori merch fach anarferol sydd â dychymyg byw a meddwl siarp, yn meiddio sefyll ei thir a newid ei thynged.

Mae’r ffenomenon byd-eang, sydd wedi ennill dros 100 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys 24 am y Sioe Gerdd Orau, bellach wedi cyfareddu dros 12 miliwn bobl ledled y byd.