Cyngor Teithio ar gyfer Chwe Gwlad y Dynion Guinness 2026

Dydd Llun, 2 Chwefror 2026


 

Bydd nifer o ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Dynion Guinness 2026 yn Stadiwm Principality.

Yn ystod y gemau hyn, bydd ffyrdd o amgylch Stadiwm Principality yn cau ar sail iechyd a diogelwch.

Dydd Sul 15 Chwefror – Cymru v Ffrainc, gyda’r gic gyntaf am 3.10pm, bydd ffyrdd ar gau rhwng 11am a 7.15pm.

Dydd Sadwrn 21 Chwefror – Cymru v Yr Alban, gyda’r gic gyntaf am 4.40pm, bydd ffyrdd ar gau rhwng 12.30pm a 9pm.

Dydd Sadwrn 14 Mawrth – Cymru v Yr Eidal, gyda’r gic gyntaf am 4.40pm, bydd ffyrdd ar gau rhwng 12.30pm a 9pm.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gemau rygbi hyn – felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon – CF11 0JS.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy’n mynd i’r gêm yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd y stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas ar gyfer pob digwyddiad:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau – Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn darparu gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref o gemau’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality eleni. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain, gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gemau a bydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i’r trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt yn www.gwr.com/check.

 

Trenau – Trafnidiaeth Cymru (TrC)

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu capasiti ychwanegol lle bo’n bosibl ar lwybrau i ac o Gaerdydd ar gyfer gemau cartref y Chwe Gwlad. Anogir pob cefnogwr sy’n teithio i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd system giwio lawn ar waith ar gyfer y ddwy gêm gyntaf (Cymru yn erbyn Ffrainc / Yr Alban).

Bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau’r brif linell rheilffordd yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf.  Cynghorir cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw a sicrhau eu bod yn ymuno â’r ciw cywir.

Bydd manylion ar gyfer y drydedd gêm (Cymru yn erbyn Yr Eidal, 14 Mawrth) ar gael cyn bo hir wrth i TC fynd drwy’r cynlluniau.

Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar gau ar gyfer y ddwy gêm gyntaf, gyda mynediad ar gael i deithwyr sydd angen teithio hygyrch a’r rhai sy’n teithio i Fae Caerdydd yn unig. Bydd Cyfnewidfa Fysus Caerdydd hefyd ar gau yn unol â chau ffyrdd lleol.

Bydd meysydd parcio ar gau yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar gyfer pob gêm gyda mwy o wybodaeth ar gael yma: Chwe Gwlad 2026 | Trafnidiaeth Cymru

Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yng ngorsaf Caerdydd Canolog, dylai teithwyr sicrhau eu bod wedi prynu eich tocyn trên cyn mynd i mewn i’r system giwio.

Nodyn i’ch atgoffa bod talu wrth fynd ar gael ar hyn o bryd ar wasanaethau TC a Thraws Gwlad ar draws rhwydwaith Metro De Cymru (Ddim ar gael ar wasanaethau Great Western Railway).

Dylai teithwyr sy’n defnyddio dull talu wrth fynd dapio i mewn yn eu gorsaf ymadael ac yna tapio allan gan ddefnyddio’r un dull talu drwy’r lonydd refeniw talu wrth fynd pwrpasol wrth adael Caerdydd Canolog. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i helpu gyda’r tapio i mewn ac allan.

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau parcio a theithio digwyddiad yn defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar y Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd – CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Y man gollwng yng nghanol y ddinas yw Ffordd Tresilian.

Cymru yn erbyn Ffrainc 15 Chwefror

Mae’r maes parcio yn agor am 9.30am ac mae’r bws cyntaf am 10am a’r bws olaf o ganol y ddinas am 6pm.

Cymru yn erbyn Yr Alban 21 Chwefror

Mae’r maes parcio yn agor am 9.30am ac mae’r bws cyntaf am 10am a’r bws olaf o ganol y ddinas am 7.30pm

Cymru yn erbyn Yr Eidal 14 Mawrth

Mae’r maes parcio yn agor am 9.30am ac mae’r bws cyntaf am 10am a’r bws olaf o ganol y ddinas am 7.30pm.

Y gost yw £15.  Arian parod yn unig.

 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Event Day Parking at Sophia Gardens (Cars)

Getting there: Exit junction 32 off the M4

Cost: £20 for cars and £30 for coaches – card payments are now available.

Parking time: Car park opens at 8.00am and closes at 12 midnight.

Please note: Sophia Gardens car park will be staffed until 7.00pm all vehicles are left on site at the owner’s risk. Cardiff Council will not be held responsible for any theft or damage to motor vehicles or personal possessions. Any vehicles left in the car park after closing time will be fined.

 

Bws

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Ar gyfer gwasanaethau Adventure Travel, ewch i: Adventure Travel | Bus & Coach Services Across South Wales | Adventure Travel

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

 

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Heol y Gogledd; St David’s Dewi Sant; John Lewis; The Capitol; NCP Stryd Adam, NCP Plas Dumfries a NCP Heol y Brodyr Llwydion.

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.  Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau yn unol â’r trefniadau cau ffyrdd ar gyfer pob gêm.