Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2026 yn gwahodd plant i greu, cwestiynu a darganfod
Dydd Iau, 12 Marwth 2026
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd yn 2026 gyda rhaglen fywiog sy’n gwneud plant yn ganolog i’r gweithredu.
Mae’r ŵyl, sy’n llawn gweithdai ymarferol, perfformiadau rhyngweithiol a gweithgareddau magu hyder gan awduron penigamp gan gynnwys y Children’s Laureate for Wales, Nicola Davies a Children’s Laureate blaenorol y DU, Joseph Coelho, yn gwahodd cynulleidfaoedd ifanc i greu, cwestiynu a darganfod, yn ogystal â darllen.
Plentyn yn siarad â’r awdur Rob Biddulph yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd y llynedd. Cydnabyddiaeth: Cyngor Caerdydd.
Drwy gydol yr ŵyl, bydd plant yn cael eu hannog i gymryd rhan: datrys posau, gofyn cwestiynau, dylunio teithiau gofod, creu creaduriaid newydd hudolus, darlunio ochr yn ochr â darlunwyr a dyfeisio eu straeon eu hunain. O anturiaethau torri codau gyda The Week Junior i adeiladu gemwaith cosmig gyda’r Cosmic Cadets ac awdur Bubblegum Bots, Ryan Crawford, mae digwyddiadau wedi’u cynllunio i ennyn chwilfrydedd, gwaith tîm a dychymyg.
Mae creadigrwydd yn ganolog trwy gydol y rhaglen. Gall darllenwyr ifanc dynnu lluniau gyda darlunwyr poblogaidd, archwilio emosiynau trwy weithdai ysgrifennu llawn dychymyg, neu ddarganfod grym hunanfynegiant mewn digwyddiadau sy’n dathlu hyder a bod yn unigryw, fel Be Normal gyda Ged Adamson (awdur Being Normal) a Dare to be Brilliant, gyda’r consuriwr ac awdur ‘The Magic In You,’ Mat Ricardo.
Mae’r ŵyl hefyd yn hyrwyddo trafodaeth fywiog a syniadau mawr, gyda sesiynau rhyngweithiol yn annog plant i rannu barn, gofyn cwestiynau a meddwl yn feirniadol – boed hynny’n dadlau am y pêl-droedwyr gorau erioed neu archwilio sut mae straeon clasurol yn cael eu hail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfaoedd modern trwy nofelau graffig.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dangos pa mor bwerus y gall straeon fod pan fydd plant yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, nid gwrando yn unig.
“Mae’r ŵyl yn helpu pobl ifanc i fagu hyder, creadigrwydd a chwilfrydedd. Mae’n gwneud diwylliant yn hygyrch, yn gyffrous ac yn hwyl i deuluoedd ledled y ddinas ac yn ategu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn ysgolion a llyfrgelloedd Caerdydd i hybu llythrennedd a meithrin cariad gydol oes at ddarllen.
“Mae’n enghraifft wych o ymrwymiad Caerdydd i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddarllenwyr, meddylwyr a chrewyr.”
Wedi’i hanelu at blant 3-12 oed, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ar draws canol dinas Caerdydd o ddydd Llun 20 Ebrill i Ddydd Sul 26 Ebrill, gyda sesiynau am ddim i ysgolion yn cael eu cynnal ar ddyddiau’r wythnos a digwyddiadau cyhoeddus ar y penwythnos.
Manylion llawn a thocynnau ar gael yn: https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/