Beth wyt ti'n edrych am?
Browns Brasserie & Bar yng Nghaerdydd yn Croesawu'r Gwanwyn gyda Bwydlen Newydd Ffres
Dydd Llun, 30 Mawrth 2026
Mwynhewch flasau mwy disglair a ffres y tymor gyda’r fwydlen wanwyn/haf newydd yn Browns Brasserie & Bar yng Nghaerdydd. Darganfyddwch ddathliad o ffefrynnau brasserie Prydeinig sy’n defnyddio’r cynhwysion tymhorol gorau oll gyda thwist cain.
Wedi’i gynllunio ar gyfer ciniawau hamddenol, nosweithiau hir a phopeth rhyngddynt, mae’r cyrsiau cyntaf newydd yn cynnwys Asbaragws ac Wy wedi’i Botsio gyda hollandaise a chennin crych; a Chyw Iâr Mêl Poeth Gludiog, sy’n cymysgu melyster a sbeis, ac sy’n dod gyda gwenith yr hydd, grawnfwyd a dip iogwrt coriander.
O ran y prif gwrs, bwyd môr yw blas y tymor gyda Lleden Chwithig Gernywaidd, sy’n dod gyda thatws newydd sauté a menyn cregyn bylchog a pancetta; Eog â Sglein Miso gyda chacen reis sushi crisbin, madarch shimeji a dashi madarch; a Draenog Môr Butterfield gyda thomatos Ynys Wyth, olifau Nocellara a lemwn golosgedig.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae’r Deuawd Cig Oen gyda ffiled cig oen tyner a bonbon cig oen crisbin, sy’n dod gyda pomme Anna, pancetta a jus gwin coch; a’r Risotto Verde o asbaragws, corbwmpen, pys a phesto basil. O’r cigydd, mae toriadau arbenigol Browns yn parhau gyda dewis o syrlwyn, ribeye a ffiled, neu ewch am y ‘Surf & Turf’ Cimwch gyda stêc ffiled 200g a chynffon cimwch wedi’i gorchuddio â menyn garlleg a phersli.
Mae’r pwdinau’n cynnwys Eton Mess gydag eirin gwlanog a rhosmari, tra gall y rheiny sydd wrth eu bodd â siocled fwynhau’r Delice Caramel Hallt a Siocled gyda mafon ffres, dil mêl a briwsion coco Gwlad Belg.
O ran gwledda yn ystod yr wythnos, mae Browns yn cynnig gwerth gwych a blas gwych gyda dau gwrs o £19.50 neu dri chwrs o £24.50, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 12pm a 7pm. Ar ôl 7pm, mwynhewch fwydlen Blas y Gwanwyn Browns sy’n cynnig dau gwrs o £25 neu dri o £30.
Gall y rheiny sy’n codi’n gynnar ddechrau’r diwrnod yn iawn wrth i fwydlenni brecwast Browns barhau, a dydd Sul yw’r dydd ar gyfer cinio rhost traddodiadol, sy’n dod gyda’r trimins i gyd.
Gyda rhywbeth ar gyfer pob achlysur, o wleddoedd yng nghanol yr wythnos i goctels ar ôl gwaith a chiniawau ysblennydd, prydau newydd Browns yw’r ffordd berffaith o fwynhau’r tymor mewn steil.