Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieineaidd

Dyddiad(au)

13 Meh 2026

Lleoliad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dewch i ymuno â ni yn Sain Ffagan i ddathlu diwylliant a threftadaeth Tsieineaidd trwy gerddoriaeth, dawns, crefftau, gemau a mwy.

Yr hyn i’w ddisgwyl:

– Perfformiadau byw – O rythm taranllyd Dawnsfeydd y Llew a’r Ddraig i geinder perfformiadau offerynnau, dyma gyfle i fwynhau cerddoriaeth a dawns draddodiadol.
– Marchnad Mini a Stondinau Bwyd – Porwch trwy ddetholiad bywiog o grefftau, ategolion ac addurniadau wedi’u hysbrydoli gan ddiwylliant Tsieineaidd, a mwynhewch fwyd Tsieineaidd blasus.
– Cornel gwisgo i fyny – rhowch gynnig ar wisgo dillad Tsieineaidd traddodiadol sy’n berffaith ar gyfer hunlun.
– Gweithdai Celf a Chrefft – Rhowch gynnig ar grefftau Tsieineaidd traddodiadol – hwyl ar gyfer pob oedran a lefel sgiliau.
– Gorsaf flasu te – Cyfle i sipian detholiad o de Tsieineaidd, sy’n hollol rad ac am ddim i bawb ei fwynhau.
– Mwynhewch gyflwyniadau byr sy’n archwilio diwylliant Tsieineaidd gan gynnwys rhai am ddawnsio traddodiadol a’r diwylliant y mae Tsieina wedi’i rannu â Chymru.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Tsieineaid yng Nghymru (CIWA) a Sefydliad Confucius Prifysgol Caerdydd ac mae’n rhad ac am ddim i bawb ddod iddo.