Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig Stephen McNeff + Gruff Rhys

Dyddiad(au)

18 Mai 2027 - 22 Mai 2027

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Trawsfynydd, 2117.

200 mlynedd ar ôl marwolaeth y bardd, Hedd Wyn, mae grŵp o bererinion yn dychwelyd i Drawsfynydd – sydd bellach yn ardal waharddedig yn dilyn trychineb ynyr orsaf bŵer niwclear gyfagos – i ailgysylltu â’u treftadaeth Gymreig.

Gan ddisgwyl taith goffa o amgylch cartref teuluol Hedd Wyn, maent yn hytrach yn camu i dirwedd doredig lle mae ymbelydredd wedi gwneud amser ei hun yn aneglur. Mae’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn gwrthdaro ac mae ysbrydion hanes a chwedl yn cerdded ochr yn ochr â’r gymuned wtopaidd fechan sydd ar ôl.

Wedi’u tywys gan oroeswyr rhyfedd y drychineb, mae’r grŵp yn mentro’n ddyfnachi’w hanes a gwraidd mytholeg Cymru tra bod gweledigaethau gwrthdrawiadol argyfer dyfodol Cymru yn ymddangos, ac mae etifeddiaeth Hedd Wyn yn cael ei hail lunio a’i wyrdroi yn enw dechreuad newydd peryglus.

O ddychymyg Gruff Rhys, gyda cherddoriaeth gan Stephen McNeff a chyfarwyddyd gan Steffan Donnelly, mae Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig yn opera newydd gythryblus sy’n ystyried sut y gellir camddehongli, mytholegu ac adennill stori’r bardd. Mae’n gofyn pwy sy’n cael penderfynu beth mae ei waddol yn ei olygu i Gymru heddiw?

CynhyrchiadOpera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru