Grand Départ GB yn lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol i ddod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer Tour de France

Dydd Llun, 1 Mehefin 2026


 

  • Galwad am 9,000 o wirfoddolwyr, a elwir yn JOY Makers, i fod yn guriad calon y Tour de France hanesyddol a’r Tour de France Femmes avec Zwift Grands Départs yn haf 2027
  • Mae angen gwirfoddolwyr ar draws y chwe chymal ar gyfer cyfle unwaith mewn oes i chwarae rhan greiddiol yn nigwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf y byd pan ddaw i Brydain
  • Mae’r porth ymgeisio bellach ar agor hyd at 1 Medi 2026

Mae’r ymgyrch recriwtio genedlaethol i ddod o hyd i 9,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru, yr Alban a Lloegr, a fydd wrth wraidd y Tour de France hanesyddol a’r Tour de France Femmes avec Zwift Grands Départs yn haf 2027 wedi cychwyn, wrth i’r porth ymgeisio agor yn swyddogol.

Y gwirfoddolwyr, a elwir yn swyddogol yn JOY Makers, yn unol â rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départs GB, fydd curiad calon y ddwy ras, gan ddod â llawenydd beicio i gefnogwyr a chymunedau trwy gydol y chwe chymal, a helpu i sicrhau bod rasys mwyaf eiconig y gamp yn rhedeg yn ddi-dor.

Gallwch wneud cais nawr i fod yn JOY Maker ar gyfer unrhyw un o chwe chymal Grands Départs 2027 trwy www.letourgb.com/volunteer gyda chofrestriadau ar agor o ddydd Mercher 27 Mai hyd at ddydd Mawrth 1 Medi 2026.

Anogir unrhyw un sy’n 16 oed ac yn hŷn i wneud cais i fod yn JOY Maker, heb fod angen unrhyw brofiad gwirfoddoli blaenorol, i rannu yn y profiad unwaith mewn oes hwn – gan chwarae rhan yn yr hyn a fydd yn ddigwyddiad chwaraeon mwyaf poblogaidd Prydain, wrth greu atgofion parhaol a datblygu sgiliau newydd. Mae amrywiaeth o rolau i gefnogi gweithrediadau digwyddiadau a gwella profiad gwylwyr ar gael ar y Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift, gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

I nodi cychwyniad y cyfnod derbyn ceisiadau a lansiad y rhaglen, ymunodd y cyflwynydd teledu a’r darlledwr Radzi Chinyanganya â grŵp o wirfoddolwyr presennol sy’n cefnogi’r Grands Départs.

Dywedodd Radzi Chinyanganya:

“Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw pe na bawn i wedi bod yn wirfoddolwr pan oeddwn yn fy arddegau. Roeddwn i’n wirfoddolwr yn y cyfryngau, a nawr rwy’n gweithio yn y cyfryngau – rwy’n brawf byw bod gwirfoddoli yn gallu arwain at rywbeth anhygoel. Rydw i’n llawn cyffro wrth feddwl am bawb yn cymryd rhan – bydd yn brofiad bythgofiadwy.

“Gall gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud pan fyddwch chi’n ifanc fod yn frawychus, ac mae hefyd yn anodd cael profiad gwaith ar hyn o bryd. Gall gwneud cais i fod yn JOY Maker eich helpu i archwilio cyfleoedd newydd a llywio eich llwybr gyrfa, a’r cyfan wrth fod yn rhan o greu hanes. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag yw eich oedran neu’ch cefndir – mae JOY Makers yn agored i bawb – os ydych chi’n unigolyn sydd am ddod â llawenydd, rydyn ni eich eisiau chi.”

Mae’r rhaglen JOY Makers wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i bawb, o’r rheini sydd â phrofiad o wirfoddoli mewn digwyddiadau mawr a gweithgareddau British Cycling i wirfoddolwyr tro cyntaf, yn enwedig o grwpiau gwirfoddoli sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl ifanc 16–25 oed.

Bydd y rheini rhwng 18 a 25 oed yn gymwys i ymuno â’r cynllun Barod am Waith, a fydd yn cael ei lansio fel rhan o raglen effaith gymdeithasol JOY. Bydd y cynllun yn darparu pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a mentora sy’n canolbwyntio ar yrfa ar draws sawl sector. Bydd cyfuno hyn â’r profiad gwirfoddoli yn darparu cynnig profiad gwaith cyflawn ac ymarferol i bobl ifanc.

At ei gilydd, nod y rhaglen wirfoddoli a’r cynllun Barod am Waith yw gadael cydweithfa angerddol a medrus o wirfoddolwyr ar eu hôl, gan greu argraff hirbarhaol ar gyfer Grands Départs mewn cymunedau ledled y wlad. Yn ogystal â’r etifeddiaeth hon, mae British Cycling – gyda chefnogaeth partneriaid ar draws y tair gwlad – yn annog y llywodraeth i ymrwymo buddsoddiad cyfalaf hanfodol gwerth £30 miliwn i ddarparu ystod o gyfleusterau beicio newydd ac wedi’u huwchraddio ledled Prydain, gan gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethu.

Byddai’r buddsoddiad hwn yn cynyddu’r rhaglen hynod lwyddiannus ‘Places to Ride’ – buddsoddiad gwerth £15m gan y Llywodraeth i gadarnhau etifeddiaeth Pencampwriaethau Beicio Ffordd y Byd Swydd Efrog UCI 2019 – gan gyflawni dros 150 o brosiectau beicio cymunedol ledled Lloegr, gan arbed £13.1m i’r GIG.

Wrth sôn am lansio’r porth ymgeisio, dywedodd Tracy Power,ar ranJOY,rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départ GB 2027,

“Mae hwn yn gynnig gwirfoddoli gwirioneddol unigryw ac yn gyfle unwaith mewn oes i deimlo’r bwrlwm o fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n creu hanes, wrth gwrdd â phobl newydd a dathlu eich cymuned leol.

“Bydd rhaglen JOY Makers yn creu craidd o wirfoddolwyr ymgysylltiedig ledled Prydain, sy’n barod i fod yn bresennol ac i ymroi, gan neilltuo eu hamser i ddod â digwyddiadau a gweithgareddau lleol yn fyw. Bydd hyn nid yn unig o fudd i’r gymuned feicio, ond hefyd yn helpu ein cymunedau lleol i ffynnu a hybu cyflogadwyedd.

“P’un a ydych chi wedi gwirfoddoli o’r blaen, yn beicio’n rheolaidd, neu’n newydd i wirfoddoli a’r byd beicio, mae croeso i bawb fel gwirfoddolwr JOY Maker. Allwn ni ddim aros nes eich cael chi’n rhan o’r tîm, ein helpu i ddathlu llawenydd beicio ac arddangos eich cymunedau trwy’r Grand Départs.”

I gael y diweddaraf am Grands Départs 2027 a chael rhagor o wybodaeth am bob un o’r chwe chymal, ewch i letourgb.com