Beth wyt ti'n edrych am?
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn dychwelyd gyda blasau byd-eang a cherddoriaeth fyw arbennig
Dydd Iau, 4 Mehefin 2026
Mae Gŵyl Bwyd a Diod boblogaidd Caerdydd yn ôl yr haf hwn gyda chymysgedd cyffrous o arwyr bwyd lleol, blasau byd-eang, cynhyrchwyr arobryn a rhaglen amrywiol o gerddoriaeth fyw dros dridiau.
Gall ymwelwyr â Roald Dahl Plass Bae Caerdydd o ddydd Gwener 3 Gorffennaf – Dydd Sul 5 Gorffennaf ddisgwyl dathliad bywiog o gynnyrch o Gymru, masnachwyr annibynnol cartref a rhyngwladol, wedi’u gweini ochr yn ochr â blasau bwyd stryd o bob cwr o’r byd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn cynnig pleser go iawn i’r blasbwyntiau a diwrnod allan gwych i’r teulu sy’n denu ymwelwyr i Fae Caerdydd o bell ac agos.”
Mae’r ŵyl eleni yn cynnwys rhaglen gref o fusnesau o Gymru, gan gynnwys Cardiff Dough & Co, sy’n gweini toesenni brioche ffres a chwcis wedi’u creu lai na phum milltir o’r safle, a The Dough Thrower, sy’n cynnig pitsa ffres wedi’u coginio mewn tân coed a’u crefftio gyda chynhwysion o ansawdd uchel.
Gall pobl sy’n hoff o fwyd fwynhau blasau byd-eang beiddgar hefyd gan gynnwys bwyd stryd de India Keralan Karavan a ffefrynnau’r dorf fel Fat Bottom Welsh Cakes, sy’n gweini’r clasur traddodiadol yn ogystal ag amrywiadau dyfeisgar arno.
Ymhlith ffefrynnau’r ŵyl sy’n dychwelyd mae Barti Rum, rym sbeislyd arobryn o Gymru wedi’i drwytho â gwymon lawr Sir Benfro wedi’i gasglu â llaw, a The Mighty Soft Shell Crab, sy’n enwog am ei bryd bwyd tempura nodedig.
Mae masnachwyr nodedig eraill yn cynnwys Cardi Bay Bangers, sy’n cynhyrchu selsig premiwm o gynhwysion Dyffryn Teifi, bwyd stryd Mecsicanaidd arobryn The Bearded Taco, a Zio’s Gelateria gyda’u gelato a’u sorbet lleol o Ynys y Barri.
Ochr yn ochr â’r cynnig bwyd, bydd yr ŵyl yn cynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, gan arddangos ystod eang o genres o indie pop a gwerin i reggae, ffync a mwy.
Mae rhaglen dydd Gwener yn cynnwys pop gitâr bywiog Burning Ferns o Gasnewydd, ac un o fandiau salsa Ciwba mwyaf blaenllaw y DU, Fiesta Resistance, gan ddod â rhywfaint o naws Ladin i’r glannau. Gall mynychwyr yr ŵyl fwynhau y goreuon o dalent gerddorol Congo hefyd wrth i arbenigwyr Soukous Kasai Masai, dan arweiniad y “Voodoo King” Nickens Nkoso, gau’r diwrnod gyda sain egni uchel.
Ddydd Sadwrn, mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys pop indie hynod gan Dan’s People, sain eclectig efeilliaid Nookee, ac athrylith Butetown Keith Murrell a’i fand Roots and Branches, gan daflu golau ar dreftadaeth gerddorol gyfoethog reggae.
Mae rhaglen dydd Sul yn cynnig diweddglo llawn enaid, gyda Jack Mac’s Funk Pack yn dychwelyd gyda’r sain bres, ac athrylith Tiger Bay Li Harding, yn arwain perfformiad o seiniau soul, jazz ac R ‘n’ B a New Orleans, gyda chefnogaeth band o fri rhyngwladol Gary Phillips. Gan ganu yn Sansgrit, Cymraeg Hindi a Saesneg, bydd Gitan sy’n newydd i’r ŵyl yn dod â chyfuniad diwylliannol unigryw, gan gyfuno gwerin Cymru â dylanwadau clasurol Indiaidd.
ORIAU AGOR:
Dydd Gwener: 12:00 – 22:00* | Dydd Sadwrn: 11:00 – 22:00* | Dydd Sul: 11:00 – 19:00
* Mae’r Piazza Bwyd Stryd a’r Bariau ar agor tan 22:00, tra bod Marchnad y Ffermwyr, Ffair Cynhyrchwyr a Marchnad y Crefftwyr yn cau am 21:00 a’r stondinau masnach yn cau am 19:00.
Mae mynediad i Ŵyl Bwyd a Diod Caerdydd am ddim ac nid oes angen tocyn.