Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd

Dydd Gwener, 5 Mehefin 2026


 

Bydd cyfres o gyngherddau yn cael eu cynnal ym Mharc Bute yr haf hwn – fel rhan o Blackweir Live ac ar gyfer pob cyngerdd, bydd ffyrdd ar gau ar hyd rhan o Heol y Gogledd a’r strydoedd cyfagos rhwng 4pm a hanner nos.

Bydd y cyngherddau canlynol yn cael eu cynnal yn Blackweir Live yr haf hwn:

Dydd Mercher 24 Mehefin – The Cure

Dydd Gwener 26 Mehefin – Teddy Swimms

Dydd Mawrth 30 Mehefin – Lewis Capaldi

Dydd Mercher 1 Gorffennaf – Lewis Capaldi

Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf – Pit Bull.

Ni fydd cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn, ond bydd parcio digwyddiadau ar gael yng Ngerddi Sophia a’r Ganolfan Ddinesig.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 a’r rhwydwaith priffyrdd fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn – felly cynghorir yn gryf i bawb sy’n mynd i’r digwyddiadau hyn i gynllunio ymlaen llaw a mynd i mewn i Gaerdydd a’r lleoliad yn gynnar.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TraffigCymruD ar X a Facebook.

Bydd man codi/gollwng tacsis a lle parcio beiciau ar gael yn y Ganolfan Ddinesig. Mae gyrwyr tacsis yn cael gwybod na chaniateir iddynt ollwng na chodi teithwyr ar Heol y Gogledd, gan y byddant yn achosi tagfeydd diangen a rhwystr i fodurwyr eraill.

Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am gyngherddau Blackweir Live ar gael yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/37303.html

 

Cau ffyrdd

Ar gyfer y cyngherddau hyn, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4pm a hanner nos i hwyluso’r digwyddiadau hyn.

  • Stryd y Castell gyfan, o’r gyffordd â Heol y Porth
  • Heol y Dug, Ffordd y Brenin, ar eu hyd
  • Heol y Gogledd o’r gyffordd â Heol Colum i lawr i Boulevard De Nantes; a Boulevard De Nantes i’r gyffordd â Phlas y Parc. (Bydd bysus yn cael mynediad trwy Blas y Parc / Boulevard De Nantes ac i Heol Tŷ’r Brodyr i gael mynediad i Heol y Brodyr Llwydion).
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o Heol y Gadeirlan drwodd i’r gyffordd â Heol y Porth gyda mynediad i Heol y Porth yn cael ei ganiatáu.

Canolfan Ddinesig

Bydd mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli drwy gydol y dydd o 7am.

Dyma’r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Bydd y troad i’r dde o Heol Colum i mewn i Heol Corbett yn cael ei atal hefyd dros yr amseroedd cau ffyrdd i ganiatáu a rheoli mynediad i drigolion / busnesau oddi ar Heol Corbett.

 

Tacsis

Bydd man codi a gollwng tacsis pwrpasol ar gael yn y Ganolfan Ddinesig wrth yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae gyrwyr tacsi yn cael gwybod na chaniateir iddynt godi na gollwng cwsmeriaid ar Heol y Gogledd.

 

Trenau

Bydd Rheilffordd y Great Western (GWR) yn ychwanegu cerbydau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i ddychwelyd i Fryste yn dilyn cyngherddau Blackweir Live.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngherddau.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref, yn www.gwr.com/check

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi darparu capasiti ychwanegol lle bo’n bosibl ar lwybrau i ac o Gaerdydd ar gyfer holl ddigwyddiadau Blackweir, gyda gwasanaethau hwyrach wedi’u trefnu i ddarparu ar gyfer mynychwyr.

O 10pm bydd gorsaf Cathays a phont yr orsaf yn cau – bydd teithwyr yn cael eu cyfeirio naill ai i orsaf Caerdydd Canolog neu orsaf Heol y Frenhines Caerdydd.

Bydd system giwio ar waith i deithwyr yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd. Gall cwsmeriaid y Cymoedd ddefnyddio’r naill orsaf neu’r llall a bydd manylion ciwio yn cael eu rhannu cyn bo hir.

Anogir teithwyr yn gryf i flaengynllunio a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith, a phrynu tocynnau rheilffordd ymlaen llaw. Oherwydd bod sawl digwyddiad yn gwrthdaro yng nghanol y ddinas ar 4 Gorffennaf, disgwylir i wasanaethau rheilffyrdd fod yn brysurach nag arfer.

Dylai teithwyr sy’n defnyddio dull talu wrth fynd dapio i mewn yn eu gorsaf ymadael ac yna tapio allan drwy’r un dull talu. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i helpu i dapio i mewn ac allan.

Er y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn parhau i fod ar agor, bydd gwyriadau ffyrdd lleol ar waith a dylai teithwyr edrych ar wefannau gweithredwyr unigol am fanylion llawn.

Bydd gwybodaeth lawn yn cael ei rhannu ar wefan TrC a sianeli cyfryngau cymdeithasol – Blackweir Live | Trafnidiaeth Cymru

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Does dim cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn.

 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae talu â cherdyn nawr ar gael.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am 12 hanner nos.

 

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch ar gyffordd 32 yr M4

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae talu â cherdyn nawr ar gael.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Bysus

Bydd mynediad ar gyfer bysus a thacsis yn cael ei gynnal ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, Stryd y Castell, Heol y Dug a Ffordd y Brenin, yn ogystal â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Gadeirlan a Heol y Porth. Mae hyn er mwyn helpu torfeydd i adael yr ardal yn ddiogel.

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond bydd Beicffordd Heol y Gogledd yn cael ei dargyfeirio i hwyluso’r gwaith o osod a datgymalu ar gyfer y digwyddiad. Ar ddiwrnodau cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr amgen tebyg i’r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.

Bydd lle parcio beiciau ar gael yn y Ganolfan Ddinesig.

 

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

 

Parcio i Bobl Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i barcio yn y Ganolfan Ddinesig yn yr ardal parcio digwyddiad bwrpasol â thâl, fodd bynnag, mae parcio Bathodyn Glas ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ar hyd Plas y Parc / Maes yr Amgueddfa.