Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026

Dydd Iau, 11 Mehefin 2026


 

Mae’r don gychwynnol o artistiaid fydd yn perfformio yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026 wedi’i chyhoeddi, gyda Gŵyl Sŵn yn datgelu’r 60 o artistiaid cyntaf sy’n chwarae yn arddangosfa gerddoriaeth newydd flaenllaw y ddinas.

Yn dychwelyd am ei thrydedd flwyddyn, cynhelir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd o ddydd Gwener 2 Hydref tan ddydd Sadwrn 17 Hydref, a bydd unwaith eto yn cynnwys Gŵyl Sŵn, Llais a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig fel rhan o raglen ehangach sy’n dathlu pŵer cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli.

Mae’r artistiaid cyntaf a gadarnhawyd i chwarae yng Ngŵyl Sŵn (15–17 Hydref) yn gymysgedd o artistiaid cyffrous o Gymru, y DU ac enwau rhyngwladol sy’n dod i’r amlwg, sy’n adlewyrchu ymrwymiad yr ŵyl i gefnogi cerddoriaeth newydd ac arddangos artistiaid ar bob cam o’u gyrfaoedd.

Ymhlith yr artistiaid Cymreig a gyhoeddwyd mae’r offerynnwr amryddawn a’r gyfansoddwraig Cerys Hafana; y gitarydd, canwr a gwneuthurwr curiadau, Ifan; y rocwyr psych ag arlliw retro, Pys Melyn; a’r pedwar aelod alt-pop dwyieithog WRKHOUSE.

Y tu hwnt i Gymru, mae’r rhestr yn rhychwantu’r DU a’r byd, gan gynnwys egni ôl-pync synth Working Men’s Club, sŵn amrwd ac anhrefnus trwy garedigrwydd Makeshift Art Bar, indie-roc cathartig gan Honeyglaze, y ddeuawd electronig o Awstralia 2charm, ac ymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd i’r artist gwerin Gwyddelig Dove Ellis.

Dywedodd Pennaeth Cerddoriaeth Gŵyl Sŵn, Adam Williams: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer Sŵn 2026. Eleni, mae’r ŵyl yn dychwelyd gyda thri diwrnod llawn o gerddoriaeth newydd mewn 9 lleoliad gwahanol ledled Caerdydd – gyda mwy na 150 o artistiaid yn perfformio ar draws 10 llwyfan gwych. Rydyn ni’n falch o hyrwyddo cerddoriaeth newydd a rhoi llwyfan i’r artistiaid anhygoel rydyn ni’n cydweithio â nhw trwy gydol y flwyddyn.”

Yn dychwelyd am ei thrydedd flwyddyn, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd unwaith eto’n cynnwys Gŵyl Sŵn, Llais a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig fel rhan o raglen ehangach sy’n dathlu pŵer cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli.

 

RHESTR LAWN O ARTISTIAID WEDI’U CYHOEDDI HYD YN HYN

2Charm | Asidhara | Bambees | Bathing Suits | Bel Cobain | Blood Wizard | Blue Amber | Bureau De Change | Cardinals | Casi | Cerys Hafana | Chwaer Fawr | Cowboy Hunters | Dana Margolin | Dermot Henry | Disgusting Sisters | Dove Ellis | Esmerelda Road | Fatale | Foot Foot | Glasshouse Red Spider Mite | Good Health Good Wealth | Heartpiece | HMLTD | Honeyglaze | Ifan | James Emmanuel | Lacuna | Lafant | Lauren Auder | Little Grandad | Lo Rays | LSD and the Search for God | Lucia & the Best Boys | Maeve | Makeshift Art Bar | Modern Woman | Mould | Nation Unrest | PainKiller | Personal Trainer | Pyncher | Pys Melyn | SexyTadhg | Shaking Hand | SHINOBii | Shlug | Sold For Parts | Tai Haf Heb Drigolyn | The Dogs | The Joy Hotel | The Orielles | Theatre | Tokomololo | Tony Bontana | waverley. | Working Men’s Club | World News | Wrkhouse | Wyatt

Disgwylir mwy o gyhoeddiadau am artistiaid a digwyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026 yn ystod y misoedd nesaf.

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan allweddol o Strategaeth Gerddoriaeth hirdymor Cyngor Caerdydd, sy’n ceisio diogelu, hyrwyddo a chryfhau ecosystem gerddorol y ddinas. Cefnogir yr Ŵyl gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.