Beth wyt ti'n edrych am?
12 Hours for Pedal Power
Dyddiad(au)
17 Awst 2026
Amseroedd
06:00 - 18:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae digwyddiad 12 Hours for Pedal Power yn her feicio tîm cyffrous, noddedig sy’n cael ei chynnal yn Felodrom Maendy ddydd Llun 17 Awst i godi arian ar gyfer elusen Caerdydd, Pedal Power.
Ffeithiau allweddol:
• Rydym yn galw ar yr holl feicwyr, timau, clybiau a chefnogwyr i gofrestru a chymryd rhan
• Ras gyfnewid tîm beicio di-stop yn rhedeg rhwng 6am a 6pm ddydd Llun 17 Awst yn Felodrom Maendy
• Digwyddiad tîm gyda phob tîm yn cynnwys 8-12 aelod
• Rhaid i dimau gael un person yn cystadlu yn ystod pob un o’r 12 awr (dim ond ar gyfer eu slot y mae angen i aelodau tîm fod yn bresennol)
• Ar agor i oedolion a phlant o 11 oed (angen caniatâd oedolion ar blant)
• Bydd y beicwyr ar drac felodrom (addas ar gyfer beiciau 2 olwyn, trike gorwedd a tandem)
• Rydym yn gofyn i bob aelod o’r tîm godi o leiaf £100
• Bydd yr holl arian a godwyd yn mynd at yr Elusen Beicio Cynhwysol Pedal Power
N.B. Her tîm yw hon. Os hoffech gymryd rhan, ond nid oes gennych dîm, anfonwch e-bost atom yn 12hour4PP@cardiffpedalpower.org.uk a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â beicwyr eraill. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn hefyd ar gyfer unrhyw ymholiadau.