Ffiji v Cymru: Trawsnewid Caerdydd ar gyfer ‘Gêm Gartref’ i Ffiji

Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2026


 

Bydd Caerdydd yn gartref i dîm rygbi Ffiji ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf wrth i Ffiji groesawu Cymru am y tro cyntaf.

Ers dros chwe degawd, mae Ffiji wedi teithio i Gymru ar gyfer gornestau cofiadwy. Yr haf hwn, fel rhan o Bencampwriaeth y Cenhedloedd, Ffiji fydd y tîm cartref a byddant yn croesawu Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd yr achlysur yn cael ei nodi gan raglen o weithgareddau diwylliannol wedi’u cynllunio i arddangos traddodiadau, treftadaeth a lletygarwch Ffiji i gefnogwyr sy’n mynd i’r gêm.

Bydd cefnogwyr sy’n dod i’r stadiwm yn cael eu croesawu gan berfformwyr diwylliannol a rhyfelwyr Ffijïaidd traddodiadol, gan greu awyrgylch unigryw cyn y gic gyntaf.

Y tu allan i’r stadiwm, bydd y Ffanbarth swyddogol yn cynnwys Pentref Ffijïaidd realistig, ynghyd â sawl ‘Bure’ traddodiadol, sef y tai gwellt eiconig sydd i’w gweld ar draws yr ynysoedd.

Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwylliant a thraddodiadau Ffiji drwy amrywiaeth o brofiadau rhyngweithiol, gan gynnwys arddangosfeydd diwylliannol, gwisg draddodiadol, gweithgareddau celf a chrefft, ac adloniant i’r teulu.

Bydd nifer o berfformwyr mwyaf blaenllaw Ffiji hefyd yn teithio i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys Paradise Rootz, Primanavia a Georgina Ledua, ochr yn ochr â DJ Kingsman sy’n dod o Ffiji ond yn byw yn y DU.

Mae’r gêm yn rhan o wythnos ehangach o weithgareddau Ffijïaidd yng Nghaerdydd, yn dathlu’r berthynas gref rhwng Ffiji a Chymru trwy chwaraeon, diwylliant, busnes ac ymgysylltiad cymunedol.

Gyda rygbi rhyngwladol, adloniant byw a phrofiadau diwylliannol drwy gydol y dydd, mae’r digwyddiad yn addo cynnig profiad diwrnod gêm na welwyd ei debyg o’r blaen yng Nghymru.

Ffiji v Cymru
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026

Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae tocynnau ar gael o £25 i oedolion a £10 i blant dan 17 oed

Am ragor o wybodaeth a thocynnau, ewch i