Beth wyt ti'n edrych am?
Gerddi Sophia yw’r lle i fod yng Nghaerdydd dros yr haf diolch i Tân Cymreig: Feeder, Josh Navidi a rhai o dalentau gorau Cymru yn ymuno â'r parti.
Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2026
Yr haf hwn, mae Tân Cymreig yn cynnig llawer mwy na chriced o’r radd flaenaf yng Ngerddi Sophia – gyda lein-yp arbennig o fandiau chwedlonol, eiconau chwaraeon, sêr Cymreig y dyfodol ac adloniant teuluol na ellir ei golli, i gyd am bris anhygoel.
O gerddoriaeth fyw i arddangosfeydd tân, styntiau BMX i fwyd stryd, bydd Gerddi Sophia yn llawn bwrlwm bob diwrnod gêm – gan sicrhau bod rhywbeth i bawb, gyda thocynnau’n dechrau o £18 yn unig, a £5 i blant.
Actiau mawr yn disgleirio ar galendr Caerdydd:
25 Gorffennaf — Josh Navidi yw ein prif DJ
Cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Josh Navidi, fydd y prif DJ ar 25 Gorffennaf. Chwaraeodd yn y rheng ôl i Gaerdydd a Chymru, enillodd y Gamp Lawn yn 2019, roedd yn gapten ar ei wlad, ac aeth ar daith i Dde Affrica gyda’r Llewod yn 2021 cyn ymddeol yn 2023. Bydd yn ymuno â chefnogwyr ar gyfer cyfweliadau ar y llwyfan, lluniau, a digon o straeon o’i yrfa chwedlonol.
29 Gorffennaf — seren y dyfodol Hana Lili yn camu i’r llwyfan
Bydd un o dalentau mwyaf cyffrous Cymru, Hana Lili, yn perfformio ar 29 Gorffennaf. Mae’r canwr-gyfansoddwr o Sili, Bro Morgannwg, sydd wedi cefnogi Coldplay yn Stadiwm Principality yn y gorffennol, yn cyfuno indie, pop a roc gyda chyfansoddi ffraeth a gonest.
3 Awst — Feeder yn serennu
Y band roc chwedlonol o Gasnewydd, Feeder, fydd y prif berfformwyr ar 3 Awst. Mae’r grŵp, sydd wedi cael eu croesawu i Neuadd Enwogion Kerrang, wedi gwerthu dros 1.4 miliwn o albymau ac wedi cael pum record yn olynol yn y 10 uchaf yn y DU. Ni fydd ffans eisiau colli’r cyfle hwn i’w gweld yn chwarae yng Nghymru – eu hymddangosiad mawr cyntaf gartref ers 2022.
12 Awst — Mellt yn ymuno â’r hwyl
Bydd Mellt, y triawd roc Cymraeg o Gaerdydd, yn dod â’u sain egni uchel ar 12 Awst. Wedi’u ffurfio yn Aberystwyth, enillodd eu halbwm cyntaf Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc wobr Albwm y Flwyddyn yn 2018, gyda’r albwm dilynol Dim Dwywaith yn derbyn canmoliaeth helaeth gan adolygwyr yn 2023.
Mwy na chriced yn unig – diwrnod allan llawn hwyl i bawb
Bydd diwrnodau gemau yn llawn adloniant ychwanegol i ddiddanu’r teulu cyfan:
- Sioeau styntiau BMX
- Jyglwyr tân a phyrotechneg anhygoel yn dod â ‘gŵyl y Tân’ yn fyw
- Stondinau bwyd stryd wedi’u dewis yn ofalus yn cynnig blasau o bob cwr o Gymru
- Gemau a gweithgareddau chwaraeon rhyngweithiol i bobl o bob oed
“Dydy hi erioed wedi ymwneud â’r criced yn unig, ond yr awyrgylch, y balchder a rhoi diwrnod i’n cefnogwyr na fyddant byth yn ei anghofio,” meddai Gemma Polding, Pennaeth Marchnata Tân Cymreig. “Mae gennym arwyr, talent leol a’r holl hwyl y gallech chi ofyn amdano, i gyd am bris na fydd yn torri’r banc. Bwydwch y tân a dewch i fod yn rhan o rywbeth arbennig.”
Gyda thocynnau’n dechrau o £18, a dim ond £5 i blant, Tân Cymreig unwaith eto sy’n cynnig rhai o’r digwyddiadau mawr gorau yng Nghymru o ran gwerth am arian dros yr haf.
Mae tocynnau ar werth nawr yn [www.welshfire.co.uk/tickets], gyda nifer gyfyngedig ar gael ar gyfer dyddiadau’r prif actiau – archebwch yn gynnar i osgoi colli allan.