Beth wyt ti'n edrych am?
O DARO CHWECH I GYD-GANU: TÂN CYMREIG A'R DEPOT YN Y CASTELL YN DOD AT EI GILYDD I GYNNIG TOCYN CYFUNOL ARBENNIG AM £60
Dydd Mawrth, 21 Goffennaf 2026
Ai dyma’r diwrnod allan â’r gwerth gorau yng Nghaerdydd dros yr haf?
Ar 25 Gorffennaf, gall cefnogwyr wylio criced o’r radd flaenaf yng Ngerddi Sophia cyn mynd i Gastell Caerdydd ar gyfer gŵyl gerddoriaeth fyw a fydd yn cael ei harwain gan The Wombats a Sugababes – i gyd gydag un tocyn.
Mae tîm DEPOT Live wedi ymuno â Tân Cymreig i gynnig prynhawn o griced elît i ymwelwyr wrth i dimau’r menywod a’r dynion wynebu MI London yng Ngerddi Sophia ym mhencampwriaeth The Hundred. Nôl ar gyfer 2026, The Hundred yw’r arloesedd diweddaraf ym myd criced, gan ddod â chriced cyffrous ac adloniant ysblennydd at ei gilydd ynghyd â sêr rhyngwladol, hwyl i’r teulu ac awyrgylch gŵyl. Dyma’r ffordd berffaith o gychwyn y diwrnod cyn taith gerdded fer 15 munud ar draws Parc Bute ac i mewn i Gastell Caerdydd.
Yna, mae DEPOT yn y Castell yn dychwelyd gyda gŵyl drwy’r dydd yn cynnwys The Wombats, sy’n ffres ar ôl rhyddhau eu halbwm diweddaraf, a Sugababes, y mae eu catalog o ganeuon poblogaidd wedi eu gwneud yn un o grwpiau pop mwyaf hirhoedlog Prydain.
Mae’r lein-yp hefyd yn cynnwys Red Rum Club, Ben Ellis, Afro Cluster, The Family Battenberg ac Ian Davies, ochr yn ochr â rhaglen lawn dop o adloniant i blant (o hanner dydd tan 7pm). Yn ogystal â’r gerddoriaeth ar y prif lwyfan, gall mynychwyr iau yr ŵyl fwynhau sioeau byw, gweithdai drymio samba, sgiliau syrcas, paentio wynebau, modelu balŵns a gweithgareddau crefft, gan gynnwys gweithdai gwneud wombatiaid a chreu baneri Sugababes. Bydd perfformwyr crwydrol lliwgar hefyd yn bresennol drwy gydol y prynhawn, a bydd y rhaglen i blant yn gorffen gyda rêf bach 90 munud dan arweiniad DJ Giggsy.
Yn ddilys ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf yn unig, mae’r tocyn cyfunol – sy’n costio dim ond £60 – yn cynnig gwerth eithriadol am arian wrth arddangos y gorau o galendr digwyddiadau haf Caerdydd. Mae’r bartneriaeth yn dathlu gallu unigryw Caerdydd i gynnig nifer o brofiadau o’r radd flaenaf i gyd o fewn pellter cerdded.
Nick Saunders, founder of DEPOT in the Castle said “Cardiff is built for days like this. Where else could you experience elite sport, incredible live music, fantastic independent food and drink, and a music festival set in a castle – all within short walking distance.
“We’re proud to be partnering with Welsh Fire to create an experience that showcases Cardiff at its very best. Whether you’re visiting for the day or live locally, this ticket is an invitation to enjoy everything that makes the Welsh capital such a special place to spend the summer.”
Ed Rice, Chief Commercial Officer at Welsh Fire, added, “This partnership brings together two of Cardiff’s biggest summer attractions in a way that creates a fantastic experience for fans. Welsh Fire is all about delivering world-class entertainment both on and off the field, and by teaming up with DEPOT in the Castle we’re giving people the opportunity to enjoy an unforgettable day of sport and music in the heart of the city. It’s also a brilliant showcase for Cardiff as one of the major events cities in the UK.”
The combined ticket is available now, with fans encouraged to book early as availability is limited. More information and tickets are available here.
Now in its ninth year, Depot in the Castle is Cardiff’s annual family friendly festival based in the iconic surroundings of the city-centre castle grounds; headliners over the years have included Jess Glynne, Anne Marie, Bastille, Craig David, Kaiser Chiefs, Tom Grennan, Ella Eyre, Clean Bandit and The Fratellis.