Bydd yr Haul yn Dod Allan yfory yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2026


 

Mae’r aros drosodd. Mae Helios, gosodwaith saith metr o led o’r Haul, wedi glanio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac o 10am yfory (21 Gorffennaf 2026), gall ymwelwyr brofi’r gwaith celf gan Luke Jerram drwy gydol gwyliau’r haf am ddim.

 

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ⁠Amgueddfa’r Lleuad yn gynharach eleni bydd yr artist Luke Jerram yn dychwelyd i Gaerdydd gyda Helios, gosodwaith trawiadol saith metr o led o’r Haul wedi’i greu gyda delweddau manwl o NASA.⁠

Gan gyrraedd ychydig wythnosau cyn eclips yr haul prin yr haf hwn ar 12 Awst, mae Helios yn cynnig cyfle unigryw i ailgysylltu â’r seren sydd yng nghanol ein bywydau. Dan gyfeiliant y trac sain atmosfferig, mae’r gosodwaith yn trawsnewid yr Haul yn brofiad syfrdanol, gan wahodd ymwelwyr i oedi, edrych i fyny a gweld rhywbeth cyfarwydd o’r newydd.

‘Ar ôl gweld faint roedd pobl wrth eu boddau ag Amgueddfa’r Lleuad, mae’n bleser cynnig profiad hudolus arall i’n hymwelwyr’ meddai Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. ⁠‘Mae gan Helios ymdeimlad gwirioneddol o gynhesrwydd ac adnewyddiad ac mae’n teimlo fel y ffordd berffaith i groesawu misoedd yr haf. Bydd yn brofiad rhyfeddol, rhad ac am ddim i deuluoedd dros wyliau’r haf.’

I gyd-fynd â’r gosodwaith, mae’r Amgueddfa wedi creu rhaglen haf lawn i deuluoedd, gyda digwyddiadau arbennig, gweithgareddau ymarferol a phrofiadau unigryw wedi’u cynllunio i ysbrydoli chwilfrydedd am yr Haul a’n lle yn y bydysawd. Gall oedolion hefyd brofi Helios mewn ffyrdd newydd trwy gyfres o ddigwyddiadau gyda’r nos a sesiynau lles. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Science of the Sun gyda Jon Chase – mae’r cyfathrebwr gwyddoniaeth, rapiwr a chyflwynydd plant Jon Chase yn archwilio rhyfeddodau ein seren agosaf trwy gymysgedd deniadol o wyddoniaeth, adrodd straeon a cherddoriaeth.
  • ⁠Amgueddfa Dros Nos o Dan Helios – digwyddiad arbennig y tu allan i oriau agor wedi’i ysbrydoli gan eclips yr haul prin yr haf hwn, sy’n caniatáu i ymwelwyr brofi Helios mewn awyrgylch unigryw gyda’r nos.  ⁠
  • Eclips yr Haul – Digwyddiad Hwyrnos – cyfle arbennig y tu allan i oriau agor i brofi Helios mewn awyrgylch unigryw gyda’r nos.
  • Sesiynau Yoga dan y Machlud gydag Eleri Morgan ⁠- cyfle i oedi ac ymlacio mewn sesiwn ioga arbennig iawn, o dan fawredd Helios.⁠ ⁠
  • Gweithgareddau am ddim yn ein Canolfan Ddarganfod Clore gan gynnwys Llwybrau Haf a chreu eich gwyliwr eclips yr haul eich hun.

Dywedodd yr Artist, Luke Jerram: ‘Roedd hi’n hyfryd rhannu’r Lleuad gyda Chaerdydd ddechrau’r flwyddyn, ac mae’n bleser dychwelyd nawr gyda’r Haul. Mae Helios yn gyfle i ymwelwyr brofi rhywbeth cynnes, llachar, llawn manylion. ⁠

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac rydyn ni’n annog ymwelwyr i archebu ymlaen llaw er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau dros yr haf. Am ragor o wybodaeth ewch i https://amgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/12934/Helios/

Mae Helios yn rhan o Haf o Hwyl, rhaglen haf Amgueddfa Cymru o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau ar draws ei saith amgueddfa. Mae mynediad am ddim i bob amgueddfa a gall ymwelwyr grwydro o amgylch orielau ysbrydoledig, cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, mwynhau mannau awyr agored a darganfod rhywbeth newydd drwy gydol yr haf, boed yn ymweld gyda theulu a ffrindiau neu’n mwynhau diwrnod allan ar eu pen eu hunain.

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery.