Cyngor teithio ar gyfer y Tarian Gymunedol yn Stadiwm Principality ar 16 Awst

Wed, 5 Aug 2026


 

Bydd ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer Manchester City v Arsenal ar 16 Awst.
Gyda’r gic gyntaf am 3pm, bydd ffyrdd ar gau o amgylch y stadiwm rhwng 10am ac 8pm.
Bydd arwyddion clir ar gyfer ceir, bysiau mini a choetsys cefnogwyr Manchester City ac Arsenal.
Disgwylir i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn – felly cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgoi tagfeydd yng Nghaerdydd, Cadwch le yn y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer eich tîm o flaen llaw.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TraffigCymruD ar X a Facebook.
Mae pobl sy’n mynd i’r gêm bêl-droed hon yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd y stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddefnyddio’r system newydd gan ddefnyddio gorsafoedd rheilffordd Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd.   Bydd cefnogwyr sy’n mynd gartref ar wasanaethau’r Cymoedd a’r Fro yn cael eu cyfeirio at orsaf Heol y Frenhines Caerdydd, ond bydd gwasanaethau trên prif linell yn parhau i ddefnyddio Caerdydd Canolog, gan gynnwys gwasanaethau Glynebwy.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas ar gyfer pob digwyddiad:
•    Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
•    Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
•    Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
•    Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
•    Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
•    Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
•    Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Bydd Rhodfa’r Orsaf ar gau am ddwy awr, rhwng 4.30pm a 6.30pm er mwyn caniatáu i Orsaf Heol y Frenhines weithredu’n ddiogel.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn darparu capasiti ychwanegol lle bo modd ar lwybrau i ac o Gaerdydd ar gyfer gem FA Community Shield, gyda gwasanaethau diweddarach wedi’u hamserlennu i ddarparu ar gyfer teithwyr.
Bydd system giwio ar waith gyda theithwyr sy’n teithio i’r Cymoedd neu Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio at orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd ar ôl y digwyddiad. Bydd pob ciw arall, gan gynnwys Glyn Ebwy a Maesteg, yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Bydd y ciwio’n dechrau o 16.45 yn y ddwy orsaf gyda chiw hygyrchedd ar gael yng Nghaerdydd Canolog.
Disgwylir i wasanaethau rheilffordd fod yn brysurach nag arfer ac anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw, caniatáu digon o amser ar gyfer eu teithiau, a phrynu tocynnau rheilffordd ymlaen llaw.
Dylai teithwyr sy’n defnyddio dull talu wrth fynd tapio i mewn yn eu gorsaf gychwynnol ac yna tapio allan gan ddefnyddio’r un dull talu. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i gynorthwyo gyda thapio i mewn ac allan.
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau yn unol â chau’r ffyrdd yn y ddinas, gan ailagor am 20:00. Bydd y ddau faes parcio yng Nghaerdydd Canolog hefyd ar gau wrth i TrC baratoi ar gyfer y gwaith gwelliannau i’r orsaf, er y bydd y maes parcio aml-lawr yn aros ar agor ac ar gael i’w ddefnyddio.
Bydd safle tacsis Heol Saunders ar gau o 09:45 tan 23:59.
Bydd gwybodaeth lawn yn cael ei rhannu ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol TrC
https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/fa-community-shield-2026

2026 FA Community Shield: Arsenal vs Manchester City


Cyfleuster Parcio a Theithio i gefnogwyr Arsenal

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd – gallwch ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4, ar hyd yr A4232 a dilyn yr arwyddion i’r safle.
Y man gollwng yw Arglawdd Fitzhamon.
I sicrhau lle, archebwch ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol – https://www.justpark.com/uk/event-parking/community-shield-arsenal-parking
Fel arall, y gost fydd £20 ar y diwrnod.
Parcio Bws a Bysiau Mini ar gyfer Cefnogwyr Arsenal
Rhodfa Lloyd George – CF10 5EJ.  Teithiwch ar hyd yr M4 dros Groesfan Hafren.  Gadewch yr M4 ar gyffordd 28.  Teithiwch ar hyd yr A48 i Rhodfa’r Dwyrain. Ymunwch â’r A4232 Ffordd y De a pharhau ar hyd Ffordd Rover. Dilynwch Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae, yna dilynwch Ffordd Caspian, Stryd Pen y Lanfa a Stryd Bute i Rhodfa Lloyd George.
I sicrhau lle, archebwch ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol –  https://www.justpark.com/uk/event-parking/community-shield-arsenal-parking
Fel arall, y gost yw £30 fesul bws/bws mini.
Parcio a Theithio i Gefnogwyr Manchester City
Parcio a Theithio Pentwyn – CF23 8HH – gadewch yr M4 ar gyffordd 29, gan ddilyn arwyddion parcio dynodedig ar gyfer eich tîm.  Teithiwch ar hyd yr A48 i Rhodfa’r Dwyrain.
Y man gollwng yw Ffordd y Brenin, ger Castell Caerdydd.
I sicrhau lle, archebwch ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol – https://www.justpark.com/uk/event-parking/community-shield-manchester-city-parking
Fel arall, y gost fydd £20 ar y diwrnod.
Parcio Car, Bysiau a Bysiau Mini ar gyfer Cefnogwyr Manchester City
Y Ganolfan Ddinesig – CF10 3AX. Gadewch yr M4 ar gyffordd 32/A470 Teithiwch i’r de ar hyd yr A470/Ffordd y Faenor gan ddilyn yr arwyddion dynodedig ar gyfer y Ganolfan Ddinesig. Mae mynediad drwy Heol Corbett, gyda phwyntiau mynediad ychwanegol trwy Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
I sicrhau lle, archebwch ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol – https://www.justpark.com/uk/event-parking/community-shield-manchester-city-parking
Fel arall, y gost yw £20 fesul car a £30 fesul bws/bws mini.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm bêl-droed, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Gellir archebu parcio i’r anabl gyda Stadiwm Principality ar sail y cyntaf i’r felin, neu mae’r ddau dîm yn darparu bysiau i’r anabl a fydd yn parcio ar Arglawdd Dôl Afon Taf ar sail y cyntaf i’r felin.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau am 10am ac yn ailagor am 8pm.