Brecwast gyda Cwch Cyflym Siôn Corn

Dyddiad(au)

12 Rhag 2026 - 24 Rhag 2026

Lleoliad

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, Lisvane Road, Lisvane, Caerdydd, CF14 0BB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Siôn Corn yn dod i Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien y Nadolig hwn!

Gyda’i geirw’n gorffwys i fagu nerth at Noswyl Nadolig, bydd Siôn Corn yn dod i’r safle ar ei gwch cyflym personol! Wedyn bydd e’n ymuno â’i westeion arbennig yn y caffi am bryd Nadoligaidd. Ar ôl bwyd, bydd yn sgwrsio â nhw, yn eistedd gyda nhw i dynnu lluniau ac yn rhoi anrheg iddyn nhw.

Argymhellir bwcio’n gynnar am fod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael.