Beth wyt ti'n edrych am?
Pam mae Marchnad Nadolig Caerdydd ychydig yn wahanol?
Darganfyddwch anrhegion unigryw, crefftau wedi’u gwneud â llaw a danteithion Nadoligaidd ym Marchnad Nadolig Caerdydd, yng nghalon canol y ddinas. Yn ymestyn ar draws Stryd St John, Stryd Working, Stryd Trinity a Stryd Hills, mae Marchnad Nadolig Caerdydd yn dod ag artistiaid, gwneuthurwyr, crefftwyr a chynhyrchwyr bwyd annibynnol ynghyd ar gyfer un o uchafbwyntiau’r Nadolig ym mhrifddinas Cymru.
Gyda mynediad am ddim ac amrywiaeth o stondinau sy’n newid yn gyson, dyma’r lle perffaith i ddod o hyd i rywbeth ychydig yn wahanol y Nadolig hwn.
Pryd mae Marchnad Nadolig Caerdydd?
- Mae Marchnad Nadolig Caerdydd 2026 yn rhedeg o ddydd Iau 12 Tachwedd i ddydd Mercher 23 Rhagfyr.
Ble mae hi?
- Cynhelir y farchnad ar hyd St John Street, Working Street, Trinity Street a Hills Street yng nghanol dinas Caerdydd.
A oes tâl mynediad?
- Na, mae mynediad i’r safle yn rhad ac am ddim.
Beth yw’r oriau agor?
- 10am–6pm Dydd Llun i Ddydd Sadwrn; 10am–5pm Dyddiau Sul
EIN PRIF AWGRYM! Yn newydd eleni, bydd y Farchnad ar agor yn hwyr tan 7yh bob dydd Iau trwy gydol mis Rhagfyr. Dyma amser gwych i ymweld er mwyn mwynhau’r awyrgylch fwyaf Nadoligaidd ar nosweithiau oer y gaeaf, ac i weld goleuadau’r Nadolig yn eu holl ogoniant 🎁
PAM YMWELD A'R MARCHNAD NADOLIG?
Anrhegion gan wneuthurwyr annibynnol…
- Mae Craft*Folk yn cefnogi artistiaid a chrefftwyr dilys i hyrwyddo a gwerthu eu gwaith.
- O emwaith a serameg wedi’u gwneud â llaw i waith celf, tecstilau ac anrhegion pren, mae’r farchnad yn lle gwych i ddod o hyd i anrhegion na welwch chi ar y stryd fawr.
- Mae llawer o’r arddangoswyr yn ddylunwyr neu’n wneuthurwyr eu hunain, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod y stori y tu ôl i’r cynhyrchion maen nhw’n eu prynu.
Darganfyddwch rywbeth newydd…
- Mae’r rhestr o fasnachwyr yn newid yn ystod y Farchnad Nadolig, sy’n golygu nad yw pob gwneuthurwr yno ar gyfer y digwyddiad cyfan.
- Mae arddangoswyr newydd a rhai sy’n dychwelyd yn ymddangos trwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr, felly gall fod rhywbeth gwahanol i’w ddarganfod ar ail ymweliad.
- Mae detholiad o stondinau blasu hefyd yn rhoi cyfle i wneuthurwyr mwy newydd arddangos eu gwaith.
Pa bryd yw’r amser gorau i ymweld?
Am brofiad tawelach, ystyriwch ymweld yn gynharach yn y dydd, yn enwedig yn ystod yr wythnos.
Os ydych chi’n chwilio am awyrgylch mwy Nadoligaidd, ymwelwch yn hwyrach yn y prynhawn neu’n gynnar gyda’r nos ym mis Rhagfyr, pan fydd canol y ddinas wedi’i oleuo a’r farchnad ar agor tan 7pm ar ddyddiau Iau.
Mae penwythnosau a’r cyfnod yn arwain at y Nadolig yn debygol o fod y cyfnodau prysuraf, felly gadewch amser ychwanegol os ydych chi’n bwriadu crwydro’r stondinau ar eich hamser eich hun.
Siopa Nadolig yng Nghaerdydd
Mae modd cyfuno ymweliad â Marchnad Nadolig Caerdydd yn hawdd â diwrnod llawn o siopa Nadoligaidd.
Mae’r farchnad wedi’i lleoli wrth ymyl rhai o gyrchfannau siopa mwyaf adnabyddus canol y ddinas, gan gynnwys St David’s Cardiff, Queen Street, The Hayes ac arcêdiau siopa hanesyddol Caerdydd.
Ewch i’r arcêdiau i ddarganfod siopau annibynnol, caffis a siopau ffasiwn unigryw, cyn symud ymlaen at y siopau mwy a’r canolfannau siopa cyfagos.
Os ydych chi’n chwilio am brofiad siopa marchnad mwy traddodiadol, mae Marchnad Caerdydd ar St Mary Street hefyd o fewn pellter cerdded hawdd.
Bwyd a diod yr ŵyl yng Nghaerdydd
Gall siopa wneud i chi deimlo’n llwglyd.
Yn ogystal â’r crefftau a’r anrhegion, mae’r Farchnad Nadolig yn cynnig bwyd a diod tymhorol, gan ei gwneud hi’n hawdd stopio am ddanteithion yr ŵyl wrth grwydro’r stondinau.
A chan fod y farchnad yng nghanol dinas Caerdydd, mae dewis helaeth o gaffis, bwytai, tafarndai a bariau gerllaw.
O gaffi a chacen gyflym i ginio neu swper Nadoligaidd, mae digon o ffyrdd i barhau â’r dathliadau ar ôl crwydro’r farchnad.
Cyrraedd Marchnad Nadolig Caerdydd
Mae'r Farchnad wedi'i lleoli ar strydoedd canol y ddinas sydd wedi'u neilltuo i gerddwyr, ac mae'n hawdd cyrraedd yno ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a chanolfan gyfnewid fysiau Caerdydd ill dau o fewn pellter cerdded byr; ac os ydych chi'n teithio mewn car, mae nifer o feysydd parcio yng nghanol y ddinas gerllaw.
Dewch i Gaerdydd Dros y 'Dolig
Mae mwy i'r Nadolig yng Nghaerdydd na'r Farchnad Nadolig yn unig. O oleuadau Nadoligaidd a Winter Wonderland i sioeau Nadolig, gweithgareddau i'r teulu, bwyd tymhorol a siopa hwyr y nos, mae digon o ffyrdd o fwynhau'r ddinas ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.