Paentio Crochenwaith gyda'r Ddaear yn Techniquest

Dyddiad(au)

02 Hyd 2026

Lleoliad

Techniquest, Stuart Street, Cardiff CF10 5BW

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dewch i brofi noson o baentio crochenwaith gyda’r Ddaear dan arweiniad Peggy’s Pots. Eich ysbrydoliaeth fydd Gaia, gosodiad newydd Techniquest o’r Ddaear gan yr artist Luke Jerram!

Gallwch ddewis o amrywiaeth o wahanol ddarnau crochenwaith (yn amodol ar argaeledd) – fel mygiau a phlatiau hyfryd – a bod yn greadigol gyda’ch dyluniadau. Bydd Peggy’s Pots wrth law i gynnig cyngor ar y deunyddiau a’r technegau gorau i’w defnyddio i ddod â’ch darn unigryw yn fyw.

Does dim angen unrhyw brofiad – dewiswch grochenwaith, cael eich ysbrydoli gan Gaia, a phaentio eich ffordd eich hun. Bydd yn cael ei wydro a’i danio yn barod i chi ei gasglu o Peggy’s Pots yn Nhreganna ymhen 2–3 wythnos.

Bydd Coffee Mania, y siop goffi drws nesaf i Techniquest, ar agor tan 7:30pm. Mae ganddynt amrywiaeth o ddiodydd a byrbrydau y gellir eu prynu a’u cymryd i’r digwyddiad.