Gyda’r Nos: Profiad Gaia

Dyddiad(au)

24 Med 2026

Lleoliad

Techniquest, Stuart Street, Cardiff CF10 5BW

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Nid yw Techniquest ar gyfer plant yn unig. Mae ar gyfer plant mawr hefyd.

Ym mis Medi, gallwch fod yn un o’r cyntaf i brofi Gaia, gosodiad newydd Techniquest o’r Ddaear gan yr artist gweledigaethol, Luke Jerram.

Mae’r gosodiad, sy’n cynnwys delweddau manwl NASA o wyneb y Ddaear, yn creu ymdeimlad o’r Effaith Trosolwg, a ddisgrifiwyd gyntaf gan yr awdur Frank White ym 1987. Nodweddion cyffredin y profiad i ofodwyr yw teimlad o edmygedd tuag at y blaned, dealltwriaeth ddofn o gydgysylltiad rhwng pob bywyd, ac ymdeimlad newydd o gyfrifoldeb am ofalu am yr amgylchedd.

Dewch i ymgynnull gydag oedolion o’r un anian yn nigwyddiad poblogaidd i oedolion yn unig yn Techniquest a dathlu rhyfeddod Gaia.

Llun:  Gaia. Llun gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)