Cam 1 gwaith adfer Marchnad Caerdydd i ddechrau gyda gwaith ar y to gwydr hanesyddol

Dydd Mercher, 23 Medi 2026


 

Bydd cam cyntaf prosiect adfer Marchnad Caerdydd yn dechrau ddiwedd mis Medi gyda gwaith i do gwydr eiconig yr adeilad.

Ochr yn ochr ag atgyweiriadau hanfodol i do’r Farchnad Fictoraidd restredig Gradd II*, yn ystod cam 1A y rhaglen adfer bydd paneli solar newydd hefyd yn cael eu gosod, gan leihau ôl troed carbon yr adeilad fel rhan o ymrwymiadau newid hinsawdd Caerdydd Un Blaned y ddinas.

Agorwyd Marchnad Caerdydd ym 1891 ac mae’n gartref i lu o fasnachwyr annibynnol sy’n croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r ddinas a thu hwnt. Bydd masnachwyr yn parhau i weithio trwy gydol cyfnod adfer y to, gyda’r gwaith yn digwydd mewn gofod caeedig yn acwstig ac wedi’i selio rhag llwch i leihau tarfu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Leo Thomson: “Ar ôl gwasanaethu trigolion ac ymwelwyr am fwy na 130 mlynedd, mae Marchnad Caerdydd yn un o asedau treftadaeth pwysicaf y ddinas ac yn rhan bwysig o’i hunaniaeth. Dyma ddechrau buddsoddiad gwerth miliynau yn ei hadfer a fydd yn diogelu ei dyfodol ac yn helpu i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gyrchfan fywiog yng nghanol y ddinas am genedlaethau i ddod.”

“Mae trwsio’r to gwydr hanesyddol yn gam cyntaf pwysig a fydd yn helpu i gadw cymeriad unigryw’r farchnad, mynd i’r afael â materion cynnal a chadw hanfodol, a chyda ychwanegu paneli solar, helpu i wella ei chynaliadwyedd hirdymor.”

Disgwylir i Gam 1A gymryd tua 12 mis i’w gwblhau ac ar ôl hynny bydd cam 1B yn dechrau. Gyda’i gilydd, bydd y gwaith hwn yn darparu’r sylfeini ar gyfer y rhaglen adfer ehangach. Yn ogystal ag adfer y to a’r gosodiad solar, bydd gwaith hefyd yn digwydd i’r ffenestri, y goleuadau a’r systemau trydanol yn ystod cam 1. Bydd y toiledau ar y llawr gwaelod hefyd yn cael eu hadnewyddu’n llawn a chaiff gwaith atgyweirio gwaith cerrig a phlwm i ffasâd Heol y Drindod ei gwblhau.