BBC Cymru Wales a Gwobr Iris yn datgelu'r 19 Portread Pinc diweddaraf ar gyfer 2026

Dydd Mawrth, 29 Medi 2026


 

  • Bydd Portreadau Pinc 2026 yn cael eu lansio yn St David’s Dewi Sant ar 12 Hydref, sef noson agoriadol 20fed rhifyn gŵyl ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris
  • Bydd y portreadau yn cael eu harddangos ym mhrif swyddfa BBC Cymru Wales yn Central Square, campws Atrium Prifysgol De Cymru, Cineworld Caerdydd – cartref Gŵyl Gwobr Iris 2026 – ac yn St David’s Dewi Sant yn ystod Wythnos Iris
  • Y ffotograffydd a chrëwr Portreadau Pinc 2026 yw’r artist creadigol o Gaerdydd, Harrison Williams
  • Dangosir ffilm fer, a saethwyd ac a olygwyd gan Kole Parrott, ar y noson agoriadol; bydd yn rhoi cipolwg ar y broses o greu Portreadau Pinc 2026
  • “Yn y flwyddyn hon, sef ein 20fed pen-blwydd, rydym wedi gwneud pob ymdrech bosibl ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda BBC Cymru Wales.” Berwyn Rowlands

Mae Tîm Iris a BBC Cymru Wales wrth eu bodd yn cyflwyno’r 19 Portread Pinc ar gyfer 2026 a grëwyd gan Harrison Williams. Mae Portreadau Pinc 2026 yn dathlu cydweithwyr LHDTQ+ y mae eu profiadau a’u hunigolrwydd yn helpu i lunio’r BBC yng Nghymru. Yn cynnwys 19 o bobl o bob rhan o’r sefydliad – o gyflwynwyr a newyddiadurwyr i gynhyrchwyr a golygyddion – caiff y prosiect ei gynhyrchu gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Gwobr Iris a Ffotogallery. Bydd BTS – Pink Portraits 2026 – ffilm sy’n cynnig cipolwg ar y broses gynhyrchu a saethwyd ac a olygwyd gan Kole Parrott – yn cael ei dangos ar y Noson Agoriadol (Dydd Llun, 12 Hydref).

Wedi’u dadorchuddio yn St David’s Dewi Sant – un o brif ganolfannau manwerthu Ewrop – yn ystod blwyddyn pen-blwydd Gwobr Iris yn 20 oed, mae’r portreadau’n adlewyrchu grym cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi, a byddant yn parhau i gael eu harddangos ar gyfer wythnos yr ŵyl yn yr ardal ychydig y tu allan i TGI Friday.

Yn llawn balchder, personoliaeth a chalon, mae’r Portreadau Pinc yn amlygu’r bobl y tu ôl i’r cynnwys sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt, a phwysigrwydd creu amgylchedd lle gall pawb fod yn nhw eu hunain. Bydd y portreadau yn cael eu harddangos yn Cineworld Caerdydd, a bydd yr arddangosfa y mae Ffotogallery yn ei chynnal o’r delweddau fel rhan o’u Gŵyl Ffoto Cymru yn cael ei harddangos rhwng 2 a 31 Hydref yn yr Atrium, campws Caerdydd Prifysgol De Cymru.

Dywedodd cyflwynydd BBC Cymru, Owain Wyn Evans, a oedd yn un o’r rhai a dynnwyd eu lluniau: “Mae Portreadau Pinc yn ddathliad llawen o hunaniaeth, ac rwy’n hynod falch o fod yn rhan ohono. Rwyf wastad wedi edmygu gwaith Iris, ac fel person LHDTQ+ yn y BBC, rwyf bellach yn teimlo fy mod yn gallu bod yn fi fy hun yn y gwaith, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o allu gwneud hynny. Os yw’r portreadau hyn yn helpu hyd yn oed un person i deimlo ychydig yn fwy hyderus, yn fwy cynrychioledig neu’n fwy balch o bwy ydyn nhw, yna mae hynny’n rhywbeth sy’n wirioneddol werth ei ddathlu.”

Bydd Portreadau Pinc 2026 yn nodi’r bedwaredd flwyddyn o’r ail gyfnod o’r prosiect, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2010. Comisiynodd Gwobr Iris, ar y cyd â Chyngor Ffilm y DU, y ffotograffydd portreadau Albanaidd enwog Donald MacLellan i dynnu lluniau o 20 o weithwyr proffesiynol hoyw a lesbiaidd oedd yn gweithio o flaen ac y tu ôl i’r camera. Roedd y rhain yn cynnwys Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Syr Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward a Syr Antony Sher.

Eleni, mae’r rhai sy’n cael eu tynnu yn eu lluniau yn cynnwys y newyddiadurwr Felicity Evans; y gohebydd David Grundy; y cyflwynydd Owain Wyn Evans; a’r cydlynydd cynhyrchu a gwneuthurwr podlediadau, Jack Davies.

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Mae’r Portreadau Pinc wedi dod yn rhan bwysig o allu’r ŵyl ffilmiau i gysylltu â’r gymuned ehangach trwy ffotograffiaeth. Yn y flwyddyn hon, sef ein blwyddyn 20fed pen-blwydd, rydym wedi gwneud pob ymdrech bosibl ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda BBC Cymru Wales. Gellir gweld y portreadau a dynnwyd gan yr artist creadigol o Gaerdydd, Harrison Williams, yn Cineworld, St Davids Dewi Sant ac ym mhrif swyddfa BBC Cymru Wales yn Central Square, yn ogystal ag ar-lein.”

Dywedodd Garmon Rhys, Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales: “Mae ein partneriaeth ar gyfer 2026 gyda’r Portreadau Pinc yn ddathliad pwerus o’r bobl sy’n gwneud BBC Cymru Wales yr hyn ydyw, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y portreadau hyn yn dod yn fyw ac yn cael eu harddangos ledled Caerdydd dros y mis nesaf. Rydym yn falch o bartneru â Gwobr Iris yn ystod blwyddyn ei phen-blwydd yn 20 oed i arddangos straeon am weladwyedd, dilysrwydd ac ymdeimlad o berthyn.”

Dyma restr lawn o’r rhai a gaeth eu lluniau wedi’u tynnu ar gyfer y Portreadau Pinc 2026

Dylan Reynolds, Prentis Cynhyrchu
Ella West, Cynorthwyydd Golygydd
Rhian Fuller, Rheolwr Cynhyrchu
David Grundy, Gohebydd
Lois Jones, Cynhyrchydd Cynnwys
Tyler Edwards, Newyddiadurwr
Owain Wyn Evans, Cyflwynydd
Jack Davies, Cydlynydd Cynhyrchu
Felicity Evans, Golygydd Ariannol
Jacob Cook, Prentis Cynhyrchu
Jake Sawyers, Tywysydd Teithiau
Soph Karpaty, Tywysydd Teithiau
Amy Mackrill, Newyddiadurwr
George Lee, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru, Pennaeth Cynllunio a Chynhyrchu Artistig
Ben Evans, Cynhyrchydd Cynnwys
Miriam Barker, Newyddiadurwr
Caitlin Jones, Prentis Cynhyrchu
Tim Dodd, Newyddiadurwr
Glyn Lewis (1973-2026), Adran Gyflwyno Teledu’r BBC, Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau

Mae Gwobr Iris yn dychwelyd ar gyfer ei 20fed rhifyn o ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref, gyda chefnogaeth Cronfa Prosiectau Cynulleidfa’r BFI a’r Loteri Genedlaethol, sy’n dyfarnu cyllid Achosion Da y Loteri Genedlaethol.

Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy’n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4; Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried – Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; a Chyngor Prydeinig Cymru. Mae’r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Croeso Caerdydd.