Beth wyt ti'n edrych am?
Talent o Gymru yn disgleirio yn 20fed rhifyn Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris – o’r Noson Agoriadol ymlaen
Dydd Mawrth, 6 Hydref 2026
- Mae enwau mawr o Gymru yn ymddangos yng Ngwobr Iris eleni, gan gynnwys Tom Cullen, Norena Shopland, Stifyn Parri a Bad Wolf
- Llinos Lee o raglen Heno S4C fydd yn llywio’r Noson Agoriadol
- Mae pedair ffilm a wnaed yng Nghymru yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar y Noson Agoriadol
- Tynnir sylw at dalent o Gymru yn y ffilm newydd Black Church Bay, yn y rhestr fer ar gyfer y Wobr Gorau Ym Mhrydain, yn ystod y Diwrnod Diwydiant, ac mewn tri digwyddiad cyhoeddus Sgyrsiau Iris
- “Mae eleni yn enghraifft arall o ffilmiau gwych sy’n cynnwys straeon LHDTQ+ gan bobl sydd newydd ddechrau eu gyrfaoedd ym myd ffilm a’r rhai sydd ar frig eu crefft.” Berwyn Rowlands
Mae digonedd o dalent o Gymru i’w gweld yn yr 20fed rhifyn o Ŵyl Ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris – dathliad o straeon byd-eang a swyn Caerdydd. Yn draddodiadol, y Noson Agoriadol yw’r llwyfan ar gyfer ffilmiau newydd o Gymru, ac nid yw eleni’n eithriad, wrth i’r ŵyl wythnos o hyd agor mewn dau leoliad yng nghanol dinas Caerdydd – St David’s Dewi Sant a Cineworld Caerdydd – gyda’r addewid o ragor o uchafbwyntiau Cymreig yn ystod y saith diwrnod dilynol.
Dywedodd Heledd Fychan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon: “Mae Gŵyl Ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris yn ddathliad pwerus o adrodd straeon, cynrychiolaeth a chreadigrwydd. Mae rhaglen eleni yn tynnu sylw at gryfder talent Gymreig ochr yn ochr â lleisiau amrywiol o bob cwr o’r byd, gan ddangos sut y gall gŵyl sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru gael effaith wirioneddol ryngwladol. Mae Cymru Greadigol yn falch o gefnogi Gwobr Iris wrth greu cyfleoedd i adroddwyr straeon LHDTQ+, hyrwyddo talent Gymreig a helpu ein diwydiannau sgrin a chreadigol i ffynnu ar raddfa fyd-eang.”
Mae rhaglen Noson Agoriadol yr ŵyl ffilmiau yng Nghaerdydd – sy’n rhoi cymhwysedd ar gyfer gwobrau BAFTA a BIFA ac yn cael ei chynnal rhwng 12 a 18 o Hydref – yn cychwyn gyda datgelu Portreadau Pinc 2026. Mae’r prosiect hwn yn dathlu cydweithwyr LHDTQ+ y mae eu profiadau a’u hunigoliaeth yn helpu i lunio’r BBC yng Nghymru. Yn cynnwys 19 o bobl o bob rhan o’r sefydliad, cynhyrchwyd y prosiect gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Gwobr Iris a Ffotogallery. Eleni, crëwyd y ffotograffau gan yr artist creadigol Harrison Williams, sy’n hanu o Gaerdydd.
Wrth i’r dathliadau symud i Cineworld, bydd Llinos Lee o raglen Heno S4C yn dychwelyd i helpu i greu atgofion newydd; bydd hi’n ein tywys drwy raglen wych o ffilmiau byrion ac yn rhoi cyfle i ni gwrdd â’r doniau creadigol sy’n rhan o’r digwyddiad. Bydd gwesteion sy’n mynychu’r Noson Agoriadol yn cael cynnig diodydd a byrbrydau gan TGI Fridays, ac ar ôl dangos y pedair ffilm o Gymru, bydd y parti yn parhau yn y bar ar lawr uchaf Cineworld.
O’r pedair ffilm newydd a wnaed yng Nghymru sy’n cael eu dangos ar y Noson Agoriadol, i berfformiad cyntaf Black Church Bay yng Nghymru – ffilm gan y cyfarwyddwr Cymreig-Gwyddelig Rhys Marc Jones – mae’r cysylltiad Cymreig yn gryf drwy gydol yr ŵyl: o’r panel beirniaid (mae Sara Peacock o S4C yn cadeirio panel Gwobr Iris, ynghyd ag aelod o’r panel Rebecca Hardy, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, ac mae Guto Rhun ar y panel ar gyfer y ffilm fer Orau Ym Mhrydain), y rhestr fer ar gyfer y ffilm fer Orau Ym Mhrydain, a digwyddiadau Sgyrsiau Iris a’r Diwrnod Diwydiant.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Mae’r noson agoriadol bob amser yn gyfle i’r ŵyl dynnu sylw at dalent Cymreig. Mae eleni’n enghraifft arall o ffilmiau gwych sy’n cynnwys straeon LHDTQ+, gan bobl sydd newydd ddechrau eu gyrfaoedd ym myd ffilm hyd at y rhai sydd ar frig eu crefft. Mae’r noson agoriadol hefyd yn gyfle i ddathlu, er ei bod hi’n dechnegol yn noson ysgol!”
Dangosir y ffilmiau Cymreig canlynol ar y Noson Agoriadol:
Love Is Not An Emotion
Cyf. Will Collins. Cymru, y DU. 2026.
Mewn cyfnod lle na ellir anwybyddu presenoldeb cynyddol Deallusrwydd Artiffisial, mae rhamant annisgwyl yn datblygu rhwng Archie a Rory. Nid yw llywio perthynas bob amser yn hawdd, ond sut mae cariad yn gweithio pan fo un ohonoch yn android? Mae Will Collins yn gyfarwyddwr ac yn awdur cwiar ac anneuaidd, ac yn raddedig mewn Perfformio a’r Cyfryngau o Brifysgol De Cymru. Maent wedi ymgymryd â nifer o rolau wrth weithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau a digwyddiadau byw ar gyfer cwmnïau fel S4C, Clerkenwell Films/Channel 4 ac It’s My Shout/BBC Cymru Wales.
Cranogwen a Fi
Cyf. Mari Izzard. Cymru, y DU. 2026. 15
Pan mae Nia, sy’n dioddef o bryder, yn cael trafferth dod o hyd i’w lle yn y brifysgol, mae hi’n galw Cranogwen – y bardd, y morwr a’r lesbiad di-ymddiheuriad o’r 19eg ganrif a oedd yn enwog am ei natur ddigyfaddawd – i’w helpu. Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae gwaith Mari Izzard yn hyrwyddo lleisiau benywaidd a dosbarth gweithiol dewr, gan gyfuno hiwmor â theimlad. Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae hi’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio themâu cymhleth ac anodd trwy lens gomedi finiog. Fel artist niwro-amrywiol sy’n byw gydag anabledd anweledig, mae Mari yn dod â phrofiad personol, manwl-gywirdeb emosiynol a ffraethineb i’w gwaith, gan roi safbwyntiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ganolog i’w straeon. Cranogwen a Fi yw’r ffilm gyntaf i Mari ei chyfarwyddo.
Wear I Am
Cyf. Vicky Morton. Cymru, y DU. 2026
Pan ddaw cais am ddillad sy’n cadarnhau hunaniaeth rhyw at yr elusen gymunedol TIN Wardrobe, mae parsel sydd wedi’i roi yn cychwyn ar daith ar draws Môr Iwerddon. Mae Wear I Am yn dilyn y daith honno, gan archwilio hunaniaeth, gwydnwch a theulu o ddewis, tra’n dathlu ewfforia rhyw a undod cymunedol ymhlith pobl draws, pobl anneuaidd a phobl ryngrywiol. Mae Vicky Morton yn wneuthurwr ffilmiau dogfen o Gymru ac yn gyd-sylfaenydd Red Mountain Films. Mae eu gwaith, sy’n rhoi pwyslais ar ddelweddau, yn archwilio hunaniaeth, cymuned a lleisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Cafodd eu ffilm ddogfen ddiweddaraf, Wear I Am, gefnogaeth gan Gronfa Ffilmiau Dogfen LHDTQ+ Gwobr Iris. Yn ddiweddar, cafodd Vicky hefyd eu dewis ar gyfer Her Gwneuthurwyr Ffilm Sheffield DocFest 2026 ac ar gyfer dirprwyaeth Ffilm Cymru Wales i IDFA yn 2025.
BTS – Portreadau Pinc 2026
Wedi’i saethu a’i olygu gan Kole Parrott
Golwg tu ôl i’r llenni ar gynhyrchiad Portreadau Pinc 2026, a gynhyrchwyd gan Wobr Iris a Ffotogallery mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales.
Yn dangos hefyd mae Try, y ffilm gyntaf a gyfarwyddwyd gan Lewis Bayley (DU. 2026). Mae Sam yn cyrraedd yn sgil ei gariad clos, Joe, sydd wedi marw’n ddiweddar. Wrth glywed ffrindiau Joe yn sôn am gariad, mae Sam yn mynd i amheuaeth. Wrth ddod o hyd i loches yn yr ystafell loceri gydag eiddo Joe, mae mam Joe, Tia, yn ymuno ag ef yn annisgwyl, nad oes ganddi unrhyw syniad pwy ydyw. Mae Try yn nodi ymddangosiad cyfarwyddol cyntaf Lewis Bayley, gan drosglwyddo o gynhyrchu, ac yn fwyaf diweddar cyd-gynhyrchu’r ffilm fer Shrike. Mae wrthi’n datblygu nifer o brosiectau ffilm/teledu cwair. Mae credydau blaenorol yn cynnwys Missed Conceptions a enwebwyd gan yr RTS a Greatest Adventure of All a enillodd wobr Kodak. Fel rhaglennydd Sgyrsiau Iris, mae hefyd wedi cyfweld â Roger Deakins ac Adjoa Andoh.
Nid yw’r arddangosfa Gymreig yn dod i ben ar y Noson Agoriadol.
Yn ystod yr wythnos, bydd cynrychiolwyr Gwobr Iris yn gallu gwylio Please Mistress – un o’r ffilmiau ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Orau Ym Mhrydain. Cafodd y ffilm ei chreu yng Nghymru gan Alia Ramna, sy’n dychwelyd i Iris yn dilyn prif rôl yn Trailblazers gan Sobia Bushra (o Gaerdydd), a ymddangosodd ar restr fer y Wobr Orau Ym Mhrydain yn 2025. Mae Please Mistress yn seiliedig ar brofiad personol, ac mae’r ffilm hon – sy’n cynnwys hiwmor tywyll – yn olrhain y ffordd y mae Ayesha yn ymroi i waith rhyw ar-lein. Mae rhyngweithio amrywiol â’i chleientiaid anweledig yn ei helpu i ddod o hyd i’w nerth fel menyw draws.
Bydd Black Church Bay, ffilm gan y cyfarwyddwr Cymreig-Gwyddelig Rhys Marc Jones, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghymru yn yr ŵyl Iris. Mae’r actor Cymreig Tom Cullen yn serennu fel athro sy’n wynebu gwrthdaro mewnol wrth iddo ddelio â chanlyniadau diflaniad disgybl chweched dosbarth (Joe Locke). Mae’r ffilm yn dilyn y digwyddiad yn syth ar ôl iddo ddigwydd, gan archwilio’r eithafion y gallai rhywun fynd iddynt i guddio eu gwir hunan – gan geisio achub eu croen ar draul eu henaid.
Mae rhaglen Sgyrsiau Iris yn cynnwys dwy sesiwn yn y Gymraeg: Archif Cwiar: Mewn neu ma’s? dan arweiniad Paul “Stumpy” Davies, gyda phanel sy’n cynnwys Guto Rhun a Sara Peacock; a Creadigrwydd Cymreig Cwiar: Beth sydd ma’s yna? dan arweiniad Dan Huw Bowen, cyd-sylfaenydd a Chynhyrchydd Digwyddiadau yn The Queer Emporium, gyda gwesteion yn cynnwys Leo Drayton a Liam J Edwards. Bydd trydedd sesiwn Sgyrsiau Iris, Y Tu Hwnt i’r Tropau: Lesbiaid, cynrychiolaeth, a sinema, yn cael ei chadeirio gan Emma Sansum – intern Gwobr Iris a myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd – gyda’r hanesydd ac awdur Cymreig Norena Shopland a’r gwneuthurwr ffilmiau Rachel Dax yn trafod y pwnc.
Mae’r Diwrnod Diwydiant 2026 yn llawn talent, ac rydym yn falch bod Emma Obank o’r cwmni Bad Wolf (sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd) yn ymuno â ni ar gyfer y sesiwn ar Lywio’r broses o sicrhau cyllid a datblygu prosiectau. Bydd hi’n ymuno â Celi Fowler (o Gaerdydd) ac Alice Whittemore o Film4, a fu’n gweithio gynt fel Rheolwr Rhwydwaith BFI yn Film Cymru. Mae Allison Dowzell – Cadeirydd RTS Cymru Wales a Rheolwr Gyfarwyddwr Screen Alliance Wales – wedi ymuno â’r digwyddiad fel Cadeirydd y Grŵp Llywio; bydd Maggie Russell (Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru) yn traddodi’r prif anerchiad; a bydd Lisa Baker – awdur y ffilm hynod boblogaidd Madfabulous – yn ymuno â’r panel ar gyfer y sesiwn Gwersi o’r Rheng Flaen mewn Ffilmiau Nodwedd.
Mae Gwobr Iris yn dychwelyd ar gyfer ei 20fed rhifyn o ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref, gyda chefnogaeth Cronfa Prosiectau Cynulleidfa’r BFI a’r Loteri Genedlaethol, sy’n dyfarnu cyllid Achosion Da y Loteri Genedlaethol.
Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy’n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4; Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried – Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; a Chyngor Prydeinig Cymru. Mae’r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Croeso Caerdydd.