Y Tu Hwnt i’r Gorwel - dau ddyn, dau feic, dwy antur feicio

Dyddiad(au)

24 Tach 2026

Lleoliad

Maes Carafannau & Gwersylla Caerdydd, Field Parks Road, Pontcanna, Caerdydd CF11 9XR

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Digwyddiad am ddim yng Nghaffi Pedal Power – cewch glywed gan Paul Streets a Mike Evans o Pedal Power am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu hanturiaethau beicio.

Beiciodd Mike 3000km o amgylch Patagonia i weld y bywyd gwyllt ac i gwrdd  â disgynyddion yr ymsefydlwyr a gyrhaeddodd o Gymru ar fwrdd y Mimosa yn 1865.  Roedd wynebu gwyntoedd ffyrnig y Pampas trwy feicio o’r Iwerydd i’r Môr Tawel hefyd yn rhan o’r profiad.

A thua diwedd yr haf, fe feiciodd Paul Streets a’i ffrind, yr Americanwr, Jason, o Land’s End i John O’Groats. Ymunwch â Paul wrth iddo rannu atgofion, lluniau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ynghyd â’i brofiadau gyda bwyd, a gwersi a ddysgwyd!