Beth wyt ti'n edrych am?
Muse yn cyhoeddi dyddiad enfawr yng Nghaerdydd am 2027
Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2026
Ar ôl wyth albwm Rhif 1 yn olynol yn y DU, bydd MUSE, un o fandiau enwocaf Prydain, yn brif atyniad Caeau’r Gored Ddu, Caerdydd yr haf nesaf.
Bydd yr enillwyr Gwobr GRAMMY ddwywaith yn anelu am y ddinas Ddydd Mercher 23 Mehefin. Yn ymuno â nhw yn westeion ar y noson fydd y triawd synth-pop CHVRCHES.
Gall ffans gofrestru ar gyfer gwerthiant tocynnau ymlaen llaw am 10am Ddydd Iau trwy blackweirlive/muse gyda thocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd yn gyffredinol am 10am Ddydd Gwener trwy www.blackweirlive.com a www.ticketmaster.co.uk
Ers ffurfio yn Teignmouth, Dyfnaint ym 1994, mae MUSE wedi adeiladu enw da fel un o’r bandiau byw mwyaf uchelgeisiol yn y byd, yn adnabyddus am gynyrchiadau enfawr, sy’n gwthio ffiniau a chanddynt gatalog o anthemau roc enfawr, a’r haf nesaf maen nhw’n dod â’r cynnig hwnnw i’r Gored Ddu.
Mae traciau epig o Plug In Baby a Time Is Running Out i Supermassive Black Hole ac Uprising wedi gwneud MUSE yn sêr byd-eang ac yn un o artistiaid rhyngwladol mwyaf adnabyddus y DU yn y ddau ddegawd diwethaf.
Mae MUSE yn parhau i wthio’r ffiniau hynny. Yn gynharach eleni fe wnaethon nhw ryddhau eu 10fed albwm stiwdio, The Wow! Signal, a aeth yn syth i rif 1 ar Siart Albymau Swyddogol y DU, eu hwythfed gwaith yn olynol ar frig y siart. Galwodd yr NME hwn yn “albwm gorau” y band mewn 20 mlynedd. Wedi’i chynhyrchu gyda Dan Lancaster ac Aleks Von Korff a’i recordio’n rhannol yn Stiwdios Abbey Road, mae’r record yn cynnwys y senglau Unravelling, Be With You, Cryogen, Hexagons a Nightshift Superstar, a Hush, sef deuawd gydag Ellie Goulding.
Mae’r band wedi treulio llawer o’r flwyddyn hon yn mynd â thaith The Wow! Signal ledled y byd, o sioe lansio albwm agos atoch yn Academi Brixton Llundain ym mis Ebrill i rediad yng Ngogledd America a ddiweddodd yn yr Hollywood Bowl. Mae cymal yr arenâu Ewropeaidd yn cyrraedd y DU yr wythnos hon gyda dwy noson yr un yn y Co-op Live ym Manceinion ac yn The O2 yn Llundain.
Y gwesteion arbennig ar y noson fydd CHVRCHES – band sy’n dychwelyd gyda’u pennod fwyaf eto gan ddod â’u cymysgedd nodweddiadol o synths esgynnol, alawon enfawr a llais digamsyniol y gantores Lauren Mayberry i’r llwyfan. O draciau arloesol gan gynnwys The Mother We Share a Recover i ffefrynnau’r cefnogwyr o Every Open Eye, Love Is Dead i Screen Violence, mae sioeau byw y band yn rhychwantu mwy na degawd o bop ewfforig, emosiynol. Nawr, mae CHVRCHES yn ôl gyda’u pumed albwm hir-ddisgwyliedig, All The King’s Men, sydd i fod allan fis Ionawr 2027, eu halbwm cyntaf ers bron i chwe blynedd. Mae’r sengl newydd wleidyddol Roses, sydd allan nawr, yn cynnig cipolwg cyntaf cyffrous o’r hyn sydd i ddod o’r bennod nesaf hon.
Mae dyddiad MUSE yng Nghaerdydd yn parhau â’r rhediad cryf o sioeau awyr agored mawr yn y Gored Ddu sydd wedi gweld perfformiadau gan The Cure, Lewis Capaldi, Pitbull, Teddy Swims, Stevie Wonder, Alanis Morissette, Noah Kahan a Slayer ers eu sefydlu yn 2025.
Datgelwyd eisoes y bydd yr eicon byd-eang Shania Twain, yr artist aml-blatinwm o’r Unol Daleithiau Alex Warren a’r rocwyr Gwyddelig Fontaines DC hefyd yn perfformio yn y Gored Ddu yr haf nesaf.
Mae’r digwyddiadau enfawr yng nghanol prifddinas Cymru yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth rhwng DEPOT Live (cangen digwyddiadau byw lleoliad cerddoriaeth DEPOT yng Nghaerdydd) a’r hyrwyddwyr o’r DU, Cuffe and Taylor.
Dwedodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT Live: “”Mae MUSE yn ychwanegiad gwych i’n lein-yp gigs Blackweir ar gyfer 2027. Bydd eu croesawu i gaeau godidog y Gored Ddu yn foment arbennig ac yn un yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr ato.
“Maen nhw’n artist Prydeinig enfawr sy’n cael eu dathlu am eu llwyddiannau cerddorol enfawr, ac mae pob ffydd gen i y bydd hon yn noson a hanner gwych o roc yng Nghaerdydd yr haf nesaf.”