Mae Pho Cafe yn fwyty Fietnamaidd â bwydlen amrywiol – lle gallwch ddewis o sŵp nwdl pho, cyri, salad, powlen reis, a llawer mwy.
Gan ddod â ryseitiau o strydoedd Saigon a Hanoi i strydoedd draw yma, mae Pho Cafe wedi dod yn boblogaidd iawn hyd a lled y wlad. Mae mwy na dim ond y blas anhygoel sydd i goginio Fietnamaidd – mae’n iach tu hwnt. Caiff sŵp pho arferol ei goginio am 12 awr, gan roi amser iddo fagu blas ac ymsugno maetholion o’r amryw rannau ohono. Erbyn ei weini, mae’r pryd yn un poeth, maethlon – yn berffaith i ddiwrnod gaeafol!
Yn ogystal â’r sŵpiau nwdl, mae bwydlen Pho yn llawn prydau bach gwych sy’n berffaith i’w rhannu; saladau calori isel; cyris sawrus moethus; a powlenni reis hyfryd o ysgafn.
Mae dros chwarter y fwydlen yn figan, a bron yn gyfan gwbl ddi-glwten (achredir Pho gan Coeliac UK) felly mae’n berffaith i bobl â gofynion deietegol. Mae’r fwydlen hefyd yn cynnig bwydlen wych i blant lle gallwch brynu pryd a diod am £5.50.
Ffôn
029 2269 0020
E-bost
cardiff@phocafe.co.uk
Cyfeiriad
5-10 Church Street, CF10 1BG