Neidio i'r prif gynnwys

MERCURE CARDIFF NORTH

Mae Gwesty Mercure Gogledd Caerdydd dafliad carreg o ganol dinas Caerdydd a’i holl atyniadau, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, a Bae Caerdydd - dewis ardderchog i westeion.

Overview

Mae 132 ystafell wely’r gwesty wedi’u hadnewyddu ac yn cynnig gwelyau cyffyrddus, cawodydd pŵer, setiau teledu 46 modfedd, Wi-Fi am ddim a chyfleusterau te a choffi – delfrydol os ydych chi’n hoffi bach o gysur! Gall gwesteion ddewis o blith sawl ystafell a swît ac yn y bore cânt fwynhau brecwast mawr yn ein bwyty braf. Mae amrywiaeth eang o opsiynau bwyd yn y gwesty, o fwyty i’n bwydlen lolfa hamddenol a gwasanaeth ystafell 24 awr. Mae ein bar yn y gwesty yn cynnig amrywiaeth eang o winoedd, cwrw a diodydd meddal ac mae’n lle delfrydol am sgwrs. Mae’r gwesty hefyd yn cynnwys campfa sydd am ddim i westeion. Mae gwasanaeth cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn ac mae ein tîm bob amser wrth law i’ch cynorthwyo drwy gydol eich amser gyda ni.

I roi tawelwch meddwl i’n gwesteion, mae mesurau #allsafe Covid Mercure ar waith yn y gwesty. Mae gan y gwesty achrediad #goodtogo hefyd. Mae’r gwesty’n cydymffurfio â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru felly gwiriwch y rhain pan fyddwch yn archebu i weld pa gyfleusterau fydd ar gael.

Directions