Beatles Complete

Dyddiad(au)

01 Tach 2026

Amseroedd

19:00 - 23:00

Lleoliad

Y Plas, Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Park Place, Caerdydd CF10 3QN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn syth o’u preswyliad yn y Cavern Club… Beatles Complete

Ar ôl perfformio dros 250 o sioeau yn y Cavern Club byd-enwog, y ‘beat combo’ hwn o Lerpwl yw’r band teyrnged Beatles ieuengaf erioed i gael preswyliad yn y Cavern Club yn Lerpwl, lle maen nhw’n dal i berfformio bob nos Iau.

Rhwng 19 a 23 oed, Beatles Complete yw’r peth agosaf y cewch chi at lawenydd rhemp gweld y Beatles ifanc pan wnaethon nhw syfrdanu’r byd am y tro cyntaf.

Roedd y Beatles yn ffenomenon yn hanes cerddoriaeth, ac mae Beatles Complete yn eich atgoffa pam.