Beauty and the Beast

Dyddiad(au)

05 Rhag 2026 - 03 Ion 2027

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Byddwch yn barod – mae hen, hen stori yn dod yn fyw!

Camwch i hud y Nadolig wrth i ni gyflwyno’r pantomeim teuluol hudolus, Beauty and the Beast.

Yn serennu yn y panto eleni mae’r cyflwynydd Gethin Jones fel Filipe De Boeuf, yr actor teledu, ffilm a llwyfan Steve Speirs fel Monsieur Marzipan, a hoff hen wraig Caerdydd, Mike Doyle fel Betty Bonbon. Y dyn doniol dros ben, Jack Ryan, fel Almonde, mab Betty, a seren Tik Tok o Gaerdydd Jo Osmond fel Madame Spite. Perfformiwr o’r West End, Jade Davies fel Belle, a Harri Lloyd-Morgan o Dde Cymru fel The Beast.

Yn llawn comedi fydd yn gwneud i chi rolio chwerthin, gwisgoedd disglair, caneuon anhygoel, a hud a lledrith syfrdanol a fydd yn plesio’r teulu cyfan, Beauty and the Beast yw’r stori tylwyth teg addas i’r teulu sydd â’r holl gynhwysion i fod yn bantomeim gwirioneddol fythgofiadwy.