Beth wyt ti'n edrych am?
Y Tu Hwnt i’r Gorwel - dau ddyn, dau feic, dwy antur feicio
Dyddiad(au)
24 Tach 2026
Lleoliad
Maes Carafannau & Gwersylla Caerdydd, Field Parks Road, Pontcanna, Caerdydd CF11 9XR
Map GoogleGwybodaeth am y Digwyddiad
Digwyddiad am ddim yng Nghaffi Pedal Power – cewch glywed gan Paul Streets a Mike Evans o Pedal Power am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu hanturiaethau beicio.
Beiciodd Mike 3000km o amgylch Patagonia i weld y bywyd gwyllt ac i gwrdd â disgynyddion yr ymsefydlwyr a gyrhaeddodd o Gymru ar fwrdd y Mimosa yn 1865. Roedd wynebu gwyntoedd ffyrnig y Pampas trwy feicio o’r Iwerydd i’r Môr Tawel hefyd yn rhan o’r profiad.
A thua diwedd yr haf, fe feiciodd Paul Streets a’i ffrind, yr Americanwr, Jason, o Land’s End i John O’Groats. Ymunwch â Paul wrth iddo rannu atgofion, lluniau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ynghyd â’i brofiadau gyda bwyd, a gwersi a ddysgwyd!