Beth wyt ti'n edrych am?
Brecwast gyda Cwch Cyflym Siôn Corn
Dyddiad(au)
12 Rhag 2026 - 24 Rhag 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Siôn Corn yn dod i Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien y Nadolig hwn!
Gyda’i geirw’n gorffwys i fagu nerth at Noswyl Nadolig, bydd Siôn Corn yn dod i’r safle ar ei gwch cyflym personol! Wedyn bydd e’n ymuno â’i westeion arbennig yn y caffi am bryd Nadoligaidd. Ar ôl bwyd, bydd yn sgwrsio â nhw, yn eistedd gyda nhw i dynnu lluniau ac yn rhoi anrheg iddyn nhw.
Argymhellir bwcio’n gynnar am fod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael.