Beth wyt ti'n edrych am?
Dance, Queen!
Dyddiad(au)
05 Rhag 2026
Amseroedd
17:00 - 19:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn galw breninesau dawnsio. Ymunwch â nhw yn Cabaret am ddwy awr o glasuron disgo, coctels a digonedd o ddisgleirdeb.
Parti wedi’i ysbrydoli gan ABBA yw Dance Queen!, ar gyfer unrhyw un sy’n gwybod pob gair, yn dwli ar gyd-ganu neu sydd eisiau prynhawn dydd Sadwrn allan ym Mae Caerdydd. Dewch â’ch ffrindiau, gwisgwch eich esgidiau platfform a pharatowch ar gyfer parti yn llawn gliter, ffefrynnau disgo ac eiliadau cofiadwy ar y llawr dawnsio.
Mae eich tocyn yn cynnwys:
• Mynediad i’r parti Dance, Queen! yn Cabaret
• Coctel wrth gyrraedd
• DJ byw yn chwarae ffefrynnau disgo
• Paentio wynebau gyda gliter am ddim
P’un a ydych chi’n cwrdd â ffrindiau am brynhawn allan, yn gwneud diwrnod llawn ohoni ym Mae Caerdydd neu’n mynd i weld Mamma Mia!, dyma eich gwahoddiad i gofleidio eich brenhines ddawnsio fewnol.
Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly archebwch yn gynnar i osgoi colli allan.
Age: 18+