DEPOT LIVE: ALT-J Δ

Dyddiad(au)

18 Gorff 2026

Amseroedd

17:00 - 22:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

DEPOT Live

alt-J

Taith ‘Then Again’

Mae’r daith yn cyrraedd 15 mlynedd ar ôl *An Awesome Wave* – yr albwm cyntaf a enillodd Wobr Mercury a Gwobr Ivor Novello, ac a gyflwynodd alt-J i gynulleidfaoedd ledled y byd. Bydd y band yn tynnu ar eu holl repertoire, gan ddod â’r caneuon sydd wedi diffinio eu gyrfa ynghyd.

Wedi ffurfio tra roeddent yn astudio yn y brifysgol, mae alt-J wedi dod yn un o’r bandiau Prydeinig mwyaf llwyddiannus yn y mileniwm, gyda mwy na dwy filiwn o albymau wedi’u gwerthu a dros ddwy biliwn o ffrydiau. Gyda *This Is All Yours*, cawsant albwm a gyrhaeddodd rif un yn y DU, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer gwobrau GRAMMY a BRIT. Aeth *RELAXER* yn syth i’r 10 Uchaf yn y DU a dyma’r ail record iddynt gael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury; dilynwyd hyn gan berfformiadau fel prif act yn yr O2 Arena yn Llundain ac mewn gwyliau cerddoriaeth ledled y byd.