Beth wyt ti'n edrych am?
Diwrnod Ynys Echni
Dyddiad(au)
25 Gorff 2026
Amseroedd
10:30 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dewch i’n gweld ni yn Pafiliwn Pier Penarth ar ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf am adloniant am ddim, hwyl i’r teulu a phob dim Ynys Echni.
Galwch heibio ar unrhyw adeg yn ystod y dydd i ddysgu mwy am yr ynys ddiddorol hon a’i natur, ei hanes a’i straeon.
Gallwch ddisgwyl:
- taith rithwir i’r Ynys
- gweithdai celf
- profiad ffilm a sain
- arddangosiad radio
- amrywiaeth o stondinau
A llawer iawn mwy. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r dyddiad ac yn dod draw – allwn ni ddim aros i gwrdd â chi i gyd!