Beth wyt ti'n edrych am?
Gaeaf yn y Senedd
Dyddiad(au)
28 Tach 2026 - 09 Ion 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni yn y Senedd y gaeaf hwn i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau cyffrous. Dilynwch y cliwiau i ddod o hyd i Fflam yn cuddio o amgylch y Senedd a chasglu sticer Fflam Nadoligaidd. Byddwch yn greadigol gyda chrefftau gaeaf, a chymryd rhan yn y Cwest Nadolig Grinch rhyngweithiol o amgylch Bae Caerdydd.
28 Tachwedd hyd 9 Ionawr | Mynediad am ddim
Dyddiadau gweithgareddau’r gaeaf:
Tachwedd: 28
Rhagfyr: 5, 12, 19, 21, 22, 23, 24 (hyd at 2pm)
Ionawr: 2, 4, 5, 6, 7, 8, 9
I weld yr amseroedd agor a dyddiadau’r gweithgareddau yn llawn, ewch i: senedd.cymru/ymweld-a-ni