Beth wyt ti'n edrych am?
Hanner Tymor Calan Gaeaf
Dyddiad(au)
26 Hyd 2026 - 30 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni am amser ofnadwy o wych gan gynnwys paentio daliwr canhwyllau brawychus, gwneud masgiau bygythiol, gemau arswydus, a llawer mwy! Peidiwch â cholli’r cyfle i bostio llun Losin neu Lanast yma bob dydd – perffaith ar gyfer cyfleu eich hwyl Hydrefol. Bydd caneuon gorau Calan Gaeaf yn gosod y naws, a bydd byrbrydau brawychus ar gael yn y caffi. Hefyd, mwynhewch baentio wynebau diafolaidd bob dydd!
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM gyda thaith neu gellir ei archebu ar wahân.
Teimlo’n arswydus iawn? Beth am gadw lle ar ein Gweithdy Addurno Teisennau Anghenfilod Bach dydd Mercher a dydd Gwener… os ydych chi’n meiddio.