Beth wyt ti'n edrych am?
Digwyddiad Calan Gaeaf Brawychus
Dyddiad(au)
26 Hyd 2026 - 31 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gall teuluoedd sy’n chwilio am ffyrdd o ddiddanu’r plant dros hanner tymor mis Hydref fwynhau chwe diwrnod o hwyl Calan Gaeaf am ddim yng Nghei’r Fôr-forwyn, gyda gweithdai brawychus, paentio wynebau, llwybr Calan Gaeaf a digon o ddanteithion ar hyd y ffordd.
Yn rhedeg o ddydd Llun 26 i ddydd Sadwrn 31 Hydref, rhwng 11am a 4pm, bydd cyrchfan glannau Bae Caerdydd yn cynnal gweithgaredd gwahanol bob dydd, ochr yn ochr â Llwybr Brawychus Calan Gaeaf sy’n gwahodd teuluoedd i archwilio Cei’r Fôr-forwyn ar daith arswydus.
Mae’r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 26 Hydref gydag Addurno Eich Pwmpen Eich Hun, gan roi cyfle i blant fod yn greadigol gyda’u pwmpen Calan Gaeaf eu hunain. Ar ddydd Mawrth 27 Hydref, gall angenfilod bach drawsnewid eu hunain gyda Phaentio Wynebau Arswydus, cyn troi’n grefftus ddydd Mercher 28 Hydref yn Gwneud Llusernau Arswydus.
Mae Paentio Wynebau Arswydus yn dychwelyd ddydd Iau 29 Hydref, ac yna Addurno Bisgedi Calan Gaeaf ddydd Gwener 30 Hydref, lle gall plant greu eu danteithion ofnadwy o flasus eu hunain.
Mae’r wythnos yn dod i ben ddydd Sadwrn 31 Hydref gyda Digwyddiad arbennig i nodi Diwedd Calan Gaeaf. Mae teuluoedd yn cael eu hannog i ddod mewn gwisgoedd brawychus, cael eu hwynebau wedi’u paentio, mynd ar y Llwybr Calan Gaeaf a thynnu lluniau teuluol o hwyl arswydus yn y mannau hunlun brawychus yng Nghei’r Fôr-forwyn.
Ochr yn ochr â’r gweithgareddau dyddiol trwy gydol hanner tymor bydd Llwybr Brawychus Calan Gaeaf, fydd yn herio ymwelwyr ifanc i ddod o hyd i gymeriadau Calan Gaeaf cudd o amgylch Cei’r Fôr-forwyn.
Gall teuluoedd gasglu ffurflen y llwybr cyn dechrau i ddod o hyd i orsafoedd cymeriadau Calan Gaeaf mewn siopau sy’n cymryd rhan. Bydd pob cymeriad yn datgelu llythyren gyfrinachol, y bydd angen i blant eu casglu i ddatgelu gair dirgel. Yna gellir cyflwyno taflenni’r llwybr wedi’u cwblhau erbyn dydd Sadwrn 31 Hydref i hawlio danteithion Calan Gaeaf swyddogol.