Beth wyt ti'n edrych am?
John Bishop: Lets Go Round Again
Dyddiad(au)
11 Mai 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd John Bishop yn dychwelyd i Arena Utilita Caerdydd ddydd Mawrth, 11 Mai gyda “Let’s Go Round Again”.
Meddai John: “Ar ôl fy nhaith 25 sioe y llynedd roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cymryd amser i ffwrdd, ond wnes i fwynhau cymaint, roeddwn i’n ysu am gael bod ar daith eto. Felly, byddaf yn mynd allan yng ngwanwyn 2027 gyda fy sioe newydd, Let’s Go Round Again. Does dim byd yn well na bod ar lwyfan a chlywed pobl yn chwerthin. Rwy’n edrych ymlaen at dreulio eleni yn gweithio ar y sioe a datblygu deunydd newydd oherwydd rwy’n gwybod y bydd 2027 yma’n fuan. Ac os oedd fy nhaith ddiwethaf yn arwydd o unrhyw beth, mae pobl yn barod iawn am sesiwn dda o chwerthin.”
Mae cyhoeddi’r daith hon yn cyd-fynd â rhyddhau ffilm newydd ‘Is This Thing On?’ yn y sinema yn y DU ar 30 Ionawr, wedi’i hysbrydoli gan fywyd John ac wedi’i chyfarwyddo gan Bradley Cooper. Mae’r ffilm hefyd yn serennu Cooper, Will Arnett a Laura Dern.