Beth wyt ti'n edrych am?
Sophiaworks yn goleuo Gerddi Sophia ar Noson Tân Gwyllt eleni
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd Sophiaworks, arddangosfa tân gwyllt fwyaf Caerdydd, yn dychwelyd i Erddi Sophia ar Noson Tân Gwyllt eleni.
Fe’i cynhelir ddydd Iau, 5 Tachwedd, gyda’r gatiau’n agor am 5pm. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth fyw, adloniant i’r teulu a masnachwyr bwyd stryd ar Lawnt y Pafiliwn cyn i’r tân gwyllt ddechrau am 7pm.*
Mae Sophiaworks wedi dod yn draddodiad Noson Tân Gwyllt ym mhrifddinas Cymru, ac wedi gwerthu allan am y pum mlynedd diwethaf.
Prisiau tocynnau
Oedolion: £16, yn eistedd neu’n sefyll
Oedolion premiwm: £26, gan gynnwys mynediad i lolfa dan do
Dan 17 oed: £10, yn eistedd neu’n sefyll
Premiwm dan 17 oed: £21, gan gynnwys mynediad i lolfa dan do
Dan 2 oed: Am ddim, ar yr amod nad oes angen sedd
Gellir archebu tocynnau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai ag anableddau symudedd trwy gysylltu â 02920 419 311 neu e-bostio tickets@glamorgancricket.co.uk.
Disgwylir i’r galw am docynnau fod yn uchel, felly cynghorir y rhai sydd eisiau mynychu i gadw lle yn gynnar er mwyn osgoi colli un o nosweithiau mwyaf ysblennydd y flwyddyn.