Tim Burton's Universe gan Mystery Ensemble

Dyddiad(au)

31 Hyd 2026

Lleoliad

Eglwys Gadeiriol Llandaf, Cathedral Close, Llandaff, Caerdydd CF5 2LA

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Croeso i fydoedd ffantasi Tim Burton! Fe’ch gwahoddwn i ddathlu’r penwythnos Calan Gaeaf hwn ar daith drwy’r gerddoriaeth a’i gwnaeth yn fythgofiadwy. Bydd cyngerdd unigryw yn cael ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol fawreddog Llandaf, yng nghanol Caerdydd.

O ryfeddod disglair Alice in Wonderland i hud Nadoligaidd The Nightmare Before Christmas, o delynegiaeth arswydus Edward Scissorhands i ddisgleirdeb ecsentrig Charlie and the Chocolate Factory – bydd y gyngerdd hon yn eich trochi yn y seinweddau a luniodd fydysawd sinematig unigryw Burton.

Wrth galon y cyfan bydd cerddoriaeth Danny Elfman, cydweithiwr gydol oes i Burton ac un o gyfansoddwyr ffilm mwyaf nodedig ein hoes. Mae cerddoriaeth Elfman yn cyfuno elfennau chwareus ag elfennu bygythiol, tynerwch â mawredd – adlewyrchiad perffaith o ddychymyg gweledol Burton. Ochr yn ochr ag Elfman, bydd uchafbwyntiau yn cynnwys sawl perfformiad bythgofiadwy arall, gan gynnwys Corpse Bride, Beetlejuice, cerddoriaeth ysgubol a gothig Batman, a drama finiog Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street.

Yn y premiere hwn, bydd Mystery Ensemble yn dod â bydoedd Burton yn fyw mewn trefniannau unigryw. Bydd lleisiau esgynnol, lliwiau offerynnol beiddgar, ac awyrgylch fydd yn newid mewn amrantiad – o’r brawychus i’r hudolus, o’r tyner i’r epig.

Nid cyngerdd trac sain yn unig fydd hon – bydd yn brofiad theatrig byw. Bydd dirgelwch hudolus y gyngerdd yn deillio o’r cysylltiad rhwng y cerddorion a’r bensaernïaeth o’u hamgylch.

Byddwch yn teimlo fel pe baech wedi camu i mewn i ganol un o ffilmiau Tim Burton!