TYSON FURY V ANTHONY JOSHUA

Dyddiad(au)

11 Rhag 2026

Lleoliad

Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd Stadiwm Principality Caerdydd yn cynnal digwyddiad bocsio mwyaf y flwyddyn wrth i Anthony Joshua herio Tyson Fury ar noson 11 Rhagfyr.

Bydd yr ornest yn cau pen y mwdl ar un o’r cystadlaethau mwyaf heb eu datrys yn yr oes fodern. Am fwy na degawd, mae Fury a Joshua wedi bod yn amlwg iawn ym myd bocsio pwysau trwm Prydain, wedi meddu ar deitlau byd ac wedi bod yn uchafbwynt digwyddiadau mawr, ond dydyn nhw erioed wedi wynebu ei gilydd yn broffesiynol, hyd yn hyn.

Cymaint yw lefel y diddordeb byd-eang yn yr ornest fel y bydd y frwydr rhwng Joshua a Fury yn cael ei chynnal yn oriau mân y bore, yn dilyn noson lawn o focsio o’r radd flaenaf ym mhrifddinas Cymru. Bydd y gwasanaeth ffrydio byd-eang mawr Netflix yn darlledu’r digwyddiad yn fyw, gan ddangos Cymru a Stadiwm Principality i 325 miliwn o danysgrifwyr sy’n talu ar draws y byd, yn ôl amcangyfrifon.