Neidio i'r prif gynnwys

CARDIFF MARRIOTT HOTEL

Gwesty moethus, yng nghalon Ardal Caffis cosmopolitan canol dinas Caerdydd

Cardiff Marriott Cardiff Marriott Cardiff Marriott Cardiff Marriott Cardiff Marriott Cardiff Marriott

Tritiwch eich hun i wasanaeth 4 seren a lleoliad heb ei ail yng nghalon y ddinas yma yng Ngwesty’r Marriott Caerdydd. Beth bynnag eich rheswm dros ymweld â phrifddinas Cymru, byddwch wrth eich bodd â’n llety modern, dewisiadau gwledda ar y safle a pha mor agos yw’r gwesty at dirnodau poblogaidd.

Mae’r ystafelloedd a’r switiau mawr a chyffyrddus yn cynnig Wi-Fi am ddim, gwely moethus, lle gweithio mawr a gwasanaeth ystafell 24 awr.

Mae Bwyty Zest yn cynnig bwyd ffres o Gaerdydd a rhannau eraill o Gymru. Mae Caffi-Bar Chat yn cynnig teras, awyrgylch braf a digwyddiadau chwaraeon ar y ddwy sgrin fawr.

Bydd y rheiny sy’n trefnu cyfarfodydd yng nghanol Caerdydd yn gwerthfawrogi ein hystafell gynadledda ar y safle, sy’n gallu dal hyd at 400.

Gydag atyniadau canol y ddinas yn cynnwys Stadiwm Principality ond ychydig funudau i ffwrdd, bydd gennych ddigon i’ch cadw’n brysur yn ystod eich ymweliad. Trefnwch eich arhosiad nawr yng Ngwesty 4 seren Marriott Caerdydd!

Ffôn

029 2039 9944

E-bost

mhrs.cwldt.front.desk@marriotthotels.com

Cyfeiriad

Mill Lane, Caerdydd CF10 1EZ