Y gorau o blith Crefftau Cyfoes Cymru. Llwyfan cyfnewidiol o o’r goreuon yng Nghymru – yn Emyddion, Artistiaid Tecstiliau, Ceramegwyr, gweithwyr Metel, dylunwyr bagiau lledr, gwneuthurwyr celfi ac ati…
Y cwbl wedi eu Gwneud yng Nghymru gan aelodau o Urdd Gwneuthurwyr Cymru.
Fel Elusen Celf Annibynnol, ffurfiwyd Urdd Gwneuthurwyr Cymru ym 1984 fel cydweithfa i wneuthurwyr ac rydym yn parhau i gadw yr ethos yna heddiw, bob diwrnod bydd gwirfoddolwr wneuthurwr gwahanol yn rhoi o’u hamser i helpu yn yr oriel, fel y gallwch ddysgu am y gwaith celf a ddewiswyd yn unigol yn eich pwysau a chwrdd a siarad â’r gwneuthurwyr.
Cymerwch olwg ar ein harddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol o grefftau cyfoes a chelfyddyd gynhwysol. Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru hefyd yn cynnal gweithdai Crefft lle gallwch ddysgu sgiliau crefft a chreu eich crefftwaith eich hun, mae’r gweithdai hyn yn addas i bob oed a gallu.
Wedi ei leoli ar ‘Y Rhodres’ ym mhen deheuol Rhodfa Lloyd George, gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm, mae oriel Crefft yn y Bae wedi ei chreu o Sied ‘D’ wedi ei hail-wampio, warws morwrol Gradd II o gyfnod Oes Fictoria ynghyd ag estyniad modern.
CYFARWYDDIADAU
Ffôn
029 2048 4611
E-bost
admin@makersguildinwales.org.uk
Cyfeiriad
Lloyd George Avenue, Cardiff, CF10 4QH