Neidio i'r prif gynnwys

RYGBI CAERDYDD

Mae Rygbi Caerdydd yn dîm rygbi undeb proffesiynol llwyddiannus sy’n cystadlu yn y Guinness PRO14 ac yn chwarae ei gemau cartref ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

SWYDDFA DOCYNNAU:

Llun - Gwe

09:00 - 17:00

Dyddiau Gêm

10:00 - Hanner Amser

Cardiff Blues Cardiff Blues Cardiff Blues Cardiff Blues

Mae Rygbi Caerdydd yn dîm rhanbarthol proffesiynol Undeb Rygbi Cymru sydd yng nghanol y ddinas. Ar hyn o bryd maen nhw’n chwarae yng nghynghrair PRO14 Guinness, sy’n cynnwys timau o Iwerddon, yr Eidal, yr Alban, De Affrica a Chymru. Mae’r cefnogwyr selog yn heidio i Barc yr Arfau dan gysgod Stadiwm Principality ar gyfer pob gêm gartref. Y tymor diwethaf enillodd y Gleision Gwpan Her Rygbi Ewrop, gan ennill y gêm derfynol gyffrous yn erbyn Caerloyw o 31 i 30.

TEITHIAU

Parc yr Arfau, Caerdydd

Ewch y tu ôl i’r llen am daith arbennig o Barc yr Arfau, stadiwm rygbi byd-enwog. Mae’r teithiau hyd ar gael bob dydd Iau am 11:30 a 14:30. Dewch i weld yr ystafell dlysau lawn hanesyddol, blychau lletygarwch, ystafelloedd newid, cyfleusterau cyfryngol ac, wrth gwrs, y cae ei hun. Mae’r daith yn cymryd tua 75 munud a chaiff pawb beint am ddim o Brains yn y tŷ clwb ar y diwedd.

Teithiau’n costio £10.00 y pen.

Ffôn

029 2030 2000

E-bost

enquiries@cardiffblues.com

Cyfeiriad

Cardiff Arms Park, Westgate Street, Cardiff, CF10 1JA